Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/11/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd Helen Mary Jones AC fel aelod parhaol o'r Pwyllgor.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Helen Mary Jones AC.

 

(09.00)

2.

Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 3, 4 ac 8 y cyfarfod heddiw a'r cyfarfod ar 28 Tachwedd 2018

Cofnodion:

2.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 3, 4 ac 8 o gyfarfod heddiw ac ar gyfer y cyfarfod ar 28 Tachwedd 2018.

 

(09.00-09.15)

3.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20: trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.

 

(09.15-09.30)

4.

Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghylch ymchwiliad y Pwyllgor i daliadau am nwyddau cyhoeddus

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

(09.30 - 11.00)

5.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Simon Jones, Cyfarwyddwr Seilwaith Economaidd

Prys Davies, Pennaeth Datgarboneiddio ac Ynni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

5.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ddarparu gwybodaeth i'r Pwyllgor ynghylch y cais ariannu y mae Caerffili wedi'i gyflwyno i Lywodraeth y DU a fydd yn ei galluogi i fod y gymuned gyntaf ym Mhrydain lle bydd yr holl drafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei phweru gan drydan.

5.3 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor ynghylch y broses drosglwyddo a ddigwyddodd rhwng Trenau Arriva Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, yn ogystal ag unrhyw adroddiadau diwydrwydd dyladwy.

 

(11.15 - 12.15)

6.

Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2018: sesiwn dystiolaeth gyda Phwyllgor Newid Hinsawdd y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Dr Rebecca Heaton a Dr David Joffe i lywio ei ymchwiliad.

 

7.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

7. Nododd y Pwyllgor y papurau o dan eitem 7.

 

7.1

Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Deben, Cadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU ynghylch Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2018

Dogfennau ategol:

7.2

Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghylch Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2018

Dogfennau ategol:

(12.15 - 12.30)

8.

Trafod y dystiolaeth lafar

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 5 a 6.