Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/11/2017 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15 - 09.30) |
Rhag-gyfarfod preifat |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Gareth Bennett AC, Huw Irranca-Davies AC a David
Melding AC. Roedd Mohammad Asghar AC yn dirprwyo ar ran David Melding AC. Talodd y Cadeirydd deyrnged i Carl Sargeant AC, a fu'n gyfrifol am
ddatblygu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei rôl fel
Ysgrifennydd Cabinet. Diolchodd hefyd i Huw Irranca-Davies am ei gyfraniad at waith y Pwyllgor. |
||
(09.30 - 10.40) |
Gwaith craffu blynyddol ar Gyfoeth Naturiol Cymru Diane McCrea, Cadeirydd
Cyfoeth Naturiol Cymru Keith Ingram, Prif
Weithredwr Dros Dro Cyfoeth Naturiol Cymru Ceri Davies, Cyfarwyddwr
Gweithredol, Polisi a Thrwyddedu, Cyfoeth Naturiol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Atebodd Diane McCrea, Kevin Ingram a Ceri Davies gwestiynau gan yr Aelodau. Cynigiodd Diane McCrea i ddarparu rhagor o wybodaeth am y materion a
ganlyn: -
cynlluniau ynni adnewyddadwy ar dir sy'n eiddo i Gyfoeth Naturiol Cymru; -
y graddau y cafodd yr elw o werthu pren y coed a gafodd eu cwympo o
ganlyniad i'r achos o Phytophthora Ramorum ei ail-fuddsoddi mewn ailblannu; ac -
ymholiad ynghylch trwyddedau ar gyfer drilio archwiliol sy'n gysylltiedig â
ffracio yng Nghymru. |
|
Craffu ar gyllideb a gwaith Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth - wedi'i ohirio Dogfennau ategol: |
||
(10.40 - 10.50) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: Nododd yr Aelodau y papurau. |
|
Gohebiaeth ynghylch adroddiad y Pwyllgor, 'Y Llanw'n Troi? Adroddiad ar yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig' – Llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth ynghylch adroddiad y Pwyllgor, 'Y Llanw'n Troi? Adroddiad ar yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig' – ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet at y Cadeirydd Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth ynghylch adroddiad y Pwyllgor, 'Y Llanw'n Troi? Adroddiad ar yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig' - Llythyr gan Gymdeithas Pysgotwyr Cymru Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth ynghylch adroddiad y Pwyllgor, 'Y Llanw'n Troi? Adroddiad ar yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig' - ymateb gan y Cadeirydd at Gymdeithas Pysgotwyr Cymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch cyllid gan Lywodraeth Cymru i Ynni Sir Gâr Cyfyngedig Dogfennau ategol: Cofnodion: Gwnaeth Simon Thomas AC gais bod y mater hwn yn cael ei godi gydag Ysgrifennydd
y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn ystod gwaith craffu'r
Pwyllgor yn y dyfodol. |
||
Llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch polisi adnoddau naturiol Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: |
||
Sleidiau o'r cyflwyniad a wnaed gan EDF Energy yn ystod cyfarfod y Pwyllgor ar 26 Hydref Dogfennau ategol: |