Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant a Gareth Bennett.

 

(09.15 - 10.15)

2.

Ymchwiliad i ailfeddwl am fwyd yng Nghymru – sesiwn dystiolaeth lafar ar gaffael bwyd – Academyddion

Yr Athro Roberta Sonnino – Athro mewn Polisi a Chynllunio Amgylcheddol, Cyfarwyddwr Impact, Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd

Dr Helen Coulson – Cydymaith Ymchwil, Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd yr Athro Roberta Sonnino gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(10.15 - 11.15)

3.

Ymchwiliad i ailfeddwl am fwyd yng Nghymru – sesiwn dystiolaeth lafar ar gaffael bwyd – Hybu Cig Cymru a Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Gwyn Howells – Prif Swyddog Gweithredol, Hybu Cig Cymru

Andy Richardson – Cadeirydd, Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd Gwyn Howells, Prif Swyddog Gweithredol Hybu Cig Cymru, ac Andy Richardson, Cadeirydd Bwyd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, gwestiynau gan yr Aelodau.

 

Cytunodd Andy Richardson i anfon copi o'r araith a roddodd yng nghynhadledd Bwyd a Diod Cymru/ Llywodraeth Cymru, 'Buddsoddi mewn Sgiliau:  Buddsoddi mewn Twf', at y Pwyllgor.

 

4.

Ymchwiliad i ailfeddwl am fwyd yng Nghymru – sesiwn dystiolaeth lafar ar gaffael bwyd – y Ffederasiwn Bwyd a Diod – gohiriwyd

Tim Rycroft – Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol, y Ffederasiwn Bwyd a Diod

Dogfennau ategol:

(11.15 - 11.20)

5.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

5.1

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig at y Cadeirydd ynghylch argymhelliad 21 yn adroddiad y Pwyllgor, 'Dyfodol rheoli tir yng Nghymru', sy'n ymwneud â chaffael bwyd gan gyrff cyhoeddus

Dogfennau ategol:

5.2

Llythyr oddi wrth Bwyllgor Cymru y Conffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd (Confor) at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch adroddiad y Pwyllgor, 'Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd'

Dogfennau ategol:

5.3

Llythyr oddi wrth Reolwr Cymru y Conffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd (Confor), yn cynrychioli cwmnïau prosesu pren, at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch adroddiad y Pwyllgor, 'Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd'

Dogfennau ategol:

5.4

Llythyr oddi wrth Gyfarwyddwr Cymru Coed Cadw ynghylch adroddiad y Pwyllgor, 'Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd'

Dogfennau ategol:

5.5

Llythyr oddi wrth y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor, 'Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd'

Dogfennau ategol:

5.6

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch y papur gan Banel Asesu y DU Comisiwn y Byd ar Ardaloedd Gwarchodedig yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur ar yr adroddiad, 'Tirweddau'r Dyfodol: Cyflawni dros Gymru'

Dogfennau ategol:

5.7

Llythyr oddi wrth y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor, 'Y Llanw'n Troi? Adroddiad ar yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig'

Dogfennau ategol:

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.20 - 11.30)

7.

Ymchwiliad i ailfeddwl am fwyd yng Nghymru – trafodaeth breifat yn dilyn y sesiynau tystiolaeth lafar a thrafodaeth ar y camau nesaf

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.

 

(11.30 - 11.55)

8.

Y wybodaeth ddiweddaraf am faterion ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf cyn holi cwestiynau ynghylch sawl mater.

 

(11.55 - 12.00)

9.

Y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Cyfeirio Arbenigol ar Newid Hinsawdd

Cofnodion:

Gwrandawodd yr Aelodau ar y wybodaeth ddiweddaraf.

 

(12.00 - 12.45)

10.

Sesiwn friffio breifat anffurfiol gan EDF Energy ar garthu a gollwng gwaddodion sy'n gysylltiedig â Hinkley Point C

Cofnodion:

Holodd yr Aelodau gwestiynau am gynigion EDF Energy i dynnu gwaddodion o Fôr Hafren.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch sawl mater a gododd yn ystod y cyflwyniad sy’n benodol i’r drwydded forol benodol hon.