Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd ei hun a Gareth Bennett AC i'r Pwyllgor.

 

Gwnaeth Huw Irranca-Davies ddatganiad bod aelod o'i deulu yn gweithio i sefydliad Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

2.1

Tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

2.2

Llythyr gan Blaise Bullimore yn dilyn sesiwn dystiolaeth lafar gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar reoli ardaloedd morol gwarchodedig

Dogfennau ategol:

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(09.30 - 09.50)

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am adael yr Undeb Ewropeaidd:

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf a chafwyd trafodaeth ar y materion a godwyd.

 

Cytunodd y Pwyllgor i geisio cydweithio â deddfwrfeydd eraill y DU ar faterion sy'n ymwneud â Brexit.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i fabwysiadu'r dull gweithredu hwn mewn perthynas â'i holl ymchwiliadau yn y dyfodol.

 

(09.50-10.05)

5.

Papur ar yr ymchwiliad i bolisi ynni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunwyd y dylid cynnal ymchwiliad i bolisi ynni yng Nghymru.

 

Cytunodd y Pwyllgor i geisio cydweithio â deddfwrfeydd eraill y DU ar faterion sy'n ymwneud â pholisi ynni.

 

(10.05 - 10.35)

6.

Paratoi ar gyfer sesiwn graffu gyffredinol gyda Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y meysydd i ofyn cwestiynau yn eu cylch yn ystod y sesiwn graffu gyffredinol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

 

(10.45 - 11.05)

7.

Crynodeb o ganfyddiadau'r arolwg cyhoeddus ar warchod moroedd Cymru a gynhaliwyd fel rhan o'r ymchwiliad i reoli ardaloedd gwarchodedig morol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ganfyddiadau'r arolwg.

 

(11.05 - 12.15)

8.

Ymchwiliad i reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru - papur materion allweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y papur.