Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/02/2021 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Yn unol â
Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y
dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd. 1.3 Os byddai
unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei
gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi
cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn
unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.4 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS. |
|
(14.15-15.30) |
Gwaith gwaddol: Newid hinsawdd - sesiwn dystiolaeth 1 Y Gwir
Anrhydeddus Arglwydd Deben, Cadeirydd – Y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Deben, Y Pwyllgor ar Newid
Hinsawdd. |
|
(15.45-16.45) |
Gwaith gwaddol: Newid hinsawdd - sesiwn dystiolaeth 2 Haf Elgar,
Cyfarwyddwr - Cyfeillion y Ddaear Cymru Alexander
Phillips, Swyddog Polisi ac Eirioli - Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF) Cymru Cofnodion: 3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Gyfeillion y Ddaear Cymru a Chronfa
Bywyd Gwyllt y Byd (WWF) Cymru. |
|
(16.45) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 4.1Cafodd y
papurau eu nodi. |
|
Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â gwaith gwaddol y Pwyllgor Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas ag iechyd anifeiliaid ac atal afiechydon Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â Fframweithiau Cyffredin y DU Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â Rheoliadau (Diwygio) Organig 2021 Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mesur Dros Dro) (Covid-19) (Diwygio) 2021, a Rheoliadau (Diwygio) Organig 2021 Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â’r rheoliadau drafft ar newid hinsawdd Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch cynlluniau amddiffyn yr arfordir Dogfennau ategol: |
||
(16.45) |
Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Gwaith gwaddol: Newid hinsawdd - trafod y dystiolaeth a glywyd o dan eitemau 2 a 3 Cofnodion: 6.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitemau 2 a 3. |