Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/12/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg 1.2 Yn unol
â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y
cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y
cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv. 1.3
Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod
am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol
Sefydlog 17.22. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Laura Jones AS a Hefin David AS. Nid oedd neb yn dirprwyo ar
eu rhan. |
|
(09.15 - 10.30) |
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cymwysterau Cymru 2019 - 2020 David Jones,
Cadeirydd Cymwysterau Cymru Philip Blaker,
Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Holodd
y Pwyllgor Gymwysterau Cymru ynghylch ei Adroddiad Blynyddol. |
|
(10.30) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 3.1 Cafodd
y papurau eu nodi. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu at y Gweinidog Addysg ynglŷn â materion sy’n codi o gyfarfod y Pwyllgor gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 12 Tachwedd. Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan Undeb y Prifysgolion a'r Colegau (UCU) yn dilyn y cyfarfod ar 19 Tachwedd Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Cynllun Hawliau Plant diwygiedig Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan Lywodraeth Cymru ynghylch Cymorth i iechyd meddwl a llesiant dysgwyr Dogfennau ategol: |
||
(10.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod cyfan ar 10 Rhagfyr. Cofnodion: 4.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.30 - 10.40) |
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cymwysterau Cymru 2019 - 2020: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol. |
|
(10.40 - 10.50) |
Hawliau Plant yng Nghymru – trafod adborth gan dystion ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cofnodion: 6.1 Nododd
y Pwyllgor ymateb y tystion a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i dynnu ei sylw at ymatebion y
rhanddeiliaid, ac i ofyn am ragor o wybodaeth cyn y ddadl yn y Cyfarfod
Llawn. |
|
(10.50 - 11.00) |
COVID-19 - ystyried sut y dylid ymgysylltu â myfyrwyr prifysgol Cofnodion: 7.1
Cytunodd y Pwyllgor ar y dull o weithredu. |