Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Amseriad disgwyliedig: Drafft
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/11/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd
yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg 1.2 Yn unol â Rheol
Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd
o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn
cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv. 1.3 Dywedodd y Cadeirydd
fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y
byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.4 Cafwyd ymddiheuriadau
gan Sian Gwenllian AS a Laura Jones AS, ac nid oedd dirprwyon. |
|
(09.15 - 10.15) |
Sesiwn dystiolaeth ar effaith Covid-19 ar Addysg Uwch a lles staff a myfyrwyr gyda chynrychiolwyr o’r sector addysg uwch Joe Atkinson, Ymgynghorydd y Wasg a Materion Cyhoeddus –
Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru Becky Ricketts, Llywydd – Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr
Cymru Jamie Insole, Swyddog Polisi Cymru – Undeb Prifysgolion a
Cholegau Jim Dickinson, Golygydd Cysylltiol – WonkHE Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor
dystiolaeth gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru, yr Undeb Prifysgolion a
Cholegau (UCU) a WONKHE. 2.3 Cytunodd yr Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU)
i ddarparu gwybodaeth am lefelau recriwtio ar draws sefydliadau yng Nghymru, a
dyfynnwyd ymchwil yn y dystiolaeth am yr effaith y mae'r pandemig yn ei chael
ar staff addysg uwch o bob rhyw. |
|
(10.15) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 3.1 Cafodd y papurau eu
nodi. |
|
Gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) oddi wrth y Mudiad Meithrin yn dilyn y cyfarfod ar 17 Medi Dogfennau ategol: |
||
Llythyrau gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Weinidogion Llywodraeth Cymru - cais am wybodaeth am Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau at Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – cais am wybodaeth am Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22. Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at holl Brif Weithredwyr byrddau iechyd GIG Cymru ynghylch COVID-19 ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiynydd Plant Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 5 Tachwedd ynghylch COVID-19 ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg, ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl yn y Gymraeg Dogfennau ategol: |
||
(10.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.15 - 10.25) |
Effaith Covid-19 ar Addysg Uwch a llesiant staff a myfyrwyr gyda chynrychiolwyr o’r sector addysg uwch – trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y
dystiolaeth a glywyd yn y sesiwn flaenorol. |
|
(10.40 - 12.00) |
Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - trafod yr adroddiad drafft. Cofnodion: 6.1 Gohiriwyd yr eitem hon.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am gyfarfod
ychwanegol ddydd Llun 30 Tachwedd i ystyried yr adroddiad drafft ymhellach. |