Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/11/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

1.4 Ni chafwyd dim ymddiheuriadau.

 

 

(09.15 - 10.00)

2.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiynydd Plant Cymru

Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru

Rachel Thomas, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus – Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru.

 

(10.10 - 11.10)

3.

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2019 - 2020

Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru

Rachel Thomas, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus – Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru

 

Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2019  - 2020

 

Cofnodion:

3.1 Bu’r Pwyllgor yn holi Comisiynydd Plant Cymru yn fanwl am ei Hadroddiad Blynyddol 2019 - 2020.

 

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

4.1

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan y Gweinidog Addysg ynghylch ymchwiliad y Pwyllgor i addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS)

Dogfennau ategol:

4.2

Llythyr ar y cyd at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch pryderon am yr effaith y mae pandemig COVID-19 yn ei chael ar iechyd meddwl amenedigol, ac ar y berthynas rhwng rhieni a’u babanod yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

4.3

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at holl Gadeiryddion y Pwyllgorau ynghylch craffu ar reoliadau COVID-19

Dogfennau ategol:

4.4

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Addysg ynghylch y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): Cyfnod 1 (cwestiynau nas cyrhaeddwyd)

Dogfennau ategol:

4.5

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Weinidogion Llywodraeth Cymru ynghylch y cyfnod atal byr a'i effaith ar blant a phobl ifanc

Dogfennau ategol:

(11.10)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.10 - 11.20)

6.

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2019 - 2020: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y ddwy sesiwn flaenorol.

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at holl fyrddau iechyd y GIG yng Nghymru yn gofyn am eglurhad ar y wybodaeth sydd ar gael ar eu gwefannau am y llwybrau i’w dilyn i gael cymorth a chefnogaeth i blant a phobl ifanc o ran eu hiechyd meddwl, ynghyd â gwybodaeth am sut i hunangyfeirio os oes angen.

6.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch bylchau o ran gofal preswyl i blant sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth.

6.4 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg ynghylch cofrestru ar gyfer athrawon mewn ysgolion annibynnol.

 

 

 

(11.20 - 11.50)

7.

Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): ystyried y prif faterion

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y prif faterion ar gyfer ei adroddiad Cyfnod 1. Trafodir adroddiad drafft yn y cyfarfodydd ar 19 Tachwedd a 26 Tachwedd.

 

(11.50 - 12.00)

8.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021 - 2022: trafod llythyrau’r Pwyllgor at Lywodraeth Cymru

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyrau drafft.

8.2 Gofynnodd y Pwyllgor tybed a ddylai hefyd ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch cyllidebau ysgolion yn y setliad llywodraeth leol, ac at y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg ynghylch cyllid ar gyfer gweithgareddau i gefnogi addysg, datblygiad a chyfleoedd hyfforddi ar gyfer plant a phobl ifanc drwy gyfrwng Cymraeg.