Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Amseriad disgwyliedig: Drafft
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 08/10/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir
y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg 1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd
ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn
amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv. 1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe
bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn
Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.4 Nododd y Cadeirydd ymddiheuriadau gan Hefin David AS.
Dirprwyodd Jack Sargeant AS ar ei ran. |
|
(09.15 - 10.15) |
Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) – sesiwn dystiolaeth 8 gyda Chomisiynwyr Statudol Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru Jane Houston, Cynghorydd Polisi Addysg ar gyfer
Comisiynydd Plant Cymru Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Plant
Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a Chomisiynydd y Gymraeg. |
|
(10.35 - 11.35) |
Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) – sesiwn dystiolaeth 9 sy'n ymwneud ag addysg cydberthynas a rhywioldeb (ACRh) Kelly Harris, Arweinydd Datblygu Busnes a
Chyfranogiad – Brook Yr Athro Emma Renold, Athro Astudiaethau Plentyndod –
Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd Iestyn Wyn, Rheolwr Ymgyrchoedd, Polisi ac Ymchwil –
Stonewall Cymru Dr Sarah Witcombe-Hayes, Uwch Ymchwilydd Polisi (Cymru) –
NSPCC Cymru Gwendolyn Sterk, Pennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus
– Cymorth i Ferched Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Brook, yr Athro EJ
Renold, Stonewall Cymru, NSPCC Cymru a Chymorth i Ferched Cymru. |
|
(11.45) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 4.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch defnyddio pwerau statudol Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Brif Arolygydd Ei Mawrhydi yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 17 Medi Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 17 Medi Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Brif Weithredwr Cymwysterau Cymru yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 17 Medi Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at holl Is-Gangellorion Prifysgol Cymru ynghylch trefniadau i gefnogi myfyrwyr yng sgil COVID-19 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch yr adroddiad gan yr Athro Sofya Lyakhova ar addysgu o bell a Covid-19 Dogfennau ategol: |
||
(11.35) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd am weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.35 - 11.45) |
Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod
y sesiynau blaenorol. |
|
(11.45 - 12.00) |
Ymchwiliad i Hawliau Plant yng Nghymru – trafod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar y camau nesaf.
Cytunodd i ysgrifennu at y rhanddeiliaid allweddol a roddodd dystiolaeth lafar
i gael eu barn am: - ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor; ac - unrhyw ddiweddariadau sylweddol sy'n berthnasol i'r
adroddiad ers i'r Pwyllgor gymryd tystiolaeth. |