Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 09/06/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir
y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd
ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn
amddiffyn iechyd y cyhoedd. 1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe
bai’n gadael y cyfarfod am ryw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros
Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.4 Nododd y Cadeirydd ymddiheuriadau gan Hefin David AS.
Roedd Jayne Bryant AS yn dirprwyo ar ei ran. |
|
(13.30 - 14.15) |
COVID-19: Sesiwn dystiolaeth ar effaith COVID-19 ar iechyd corfforol a meddyliol plant a phobl ifanc – gyda chynrychiolwyr nyrsio, pediatreg a meddygon teulu. Dr David
Tuthill, Swyddog Cymru - Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Lisa
Turnbull, Cynghorwr Polisi Cyhoeddus – y Coleg Nyrsio Brenhinol Dr Mair Hopkin, Coleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Coleg Brenhinol
Pediatreg ac Iechyd Plant, y Coleg Nyrsio Brenhinol a Choleg Brenhinol y
Meddygon Teulu. 2.2 Cytunodd y Coleg Nyrsio Brenhinol i roi nodyn
ynghylch a oedd pob teulu’n cael ymweliadau yn ôl eu hamserlen, yn unol â
rhaglen Plant Iach Cymru. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod heddiw yn ystod eitem 4. Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y cynnig. |
||
(14.25- 14.45) |
COVID-19: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn y
sesiwn flaenorol. |
|
(14.45 - 15.30) |
COVID-19: Sesiwn dystiolaeth ar effaith COVID-19 ar iechyd corfforol a meddyliol plant a phobl ifanc gyda chynrychiolwyr y trydydd sector Simon Jones,
Pennaeth Polisi a Dylanwadu – Mind Cymru Kate Heneghan, Pennaeth Cymru -
Papyrus Sarah Stone, Cyfarwyddwr
Gweithredol dros Gymru – Samariaid Cymru Stephanie Hoffman, Pennaeth
Gweithredu Cymdeithasol – Meic Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mind Cymru,
Papyrus, Samariaid Cymru a Meic Cymru. |
|
(15.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod heddiw yn ystod eitem 7 Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.40 - 16.00) |
COVID-19: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn y
sesiwn flaenorol. |
|
(16.00 - 16.45) |
COVID-19: Sesiwn dystiolaeth ar effaith COVID-19 ar iechyd corfforol a meddyliol plant a phobl ifanc gyda chynrychiolwyr seiciatreg a seicoleg Dr Kirsty
Fenton, Seiciatrydd ymgynghorol plant a'r glasoed ym
Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chadeirydd Cyfadran Seiciatreg Plant a'r
Glasoed, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru Dr Liz
Gregory, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol ac yn cynrychioli Seicolegwyr
Cymwysedig yn y Grŵp Cynghori Arbenigol Cenedlaethol ar Iechyd Dr Bethan Phillips, Seicolegydd Clinigol Arbenigol Iawn ym Mwrdd Iechyd
Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chyd-gadeirydd yr Is-adran Seicoleg Glinigol yng
Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Goleg Brenhinol y
Seiciatryddion, Seicolegwyr Cymwysedig o’r Grŵp Cynghori Arbenigol Cenedlaethol a Chymdeithas
Seicolegol Prydain. |
|
(16.45) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 9.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Gwybodaeth ychwanegol gan NSPCC Cymru yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 18 Mai Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - cais am ragor o wybodaeth yn dilyn sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor ar 18 Mai ynghylch effaith COVID-19 ar blant sy’n agored i niwed Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Addysg - ymateb i lythyr y Pwyllgor dyddiedig 12 Mai yn gofyn am wybodaeth bellach ar effaith Covid-19 ar blant a phobl ifanc Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch gweithgareddau ymgysylltu a dadl yn y Cyfarfod Llawn ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22. Dogfennau ategol: |
||
(16.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 10.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16.45 - 16.55) |
COVID-19: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 11.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn y
sesiwn flaenorol. |
|
(16.55 - 17.15) |
Dull y Pwyllgor o ran y ddeddfwriaeth sydd ar ddod Cofnodion: 12.1 Ystyriodd y Pwyllgor ei ddull o ymdrin â
deddfwriaeth sydd ar ddod. 12.2 Fe wnaeth y Pwyllgor y canlynol: ·
cytunodd ar ddull
mewn egwyddor o graffu ar Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yng Nghyfnod 1, yn
amodol ar ei gyflwyno cyn toriad yr haf; ·
nododd ddatganiad
Llywodraeth Cymru ar 9 Mehefin 2020 yn nodi y bydd y Bil Addysg Drydyddol ac
Ymchwil (Cymru) yn cael ei gyhoeddi fel Bil Drafft a bydd ei gyflwyno’n cael ei
ohirio; a ·
cytunodd i
ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ddiweddariad ar yr amserlenni ar gyfer
gweithredu camau nesaf o ran y diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac arwydd
a fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ymateb i’r pwyntiau a godwyd yn ystod yr
ymgynghoriad y llynedd ar y Cod ADY Drafft cyn gosod y fersiwn derfynol gerbron
y Senedd. ·
|