Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/05/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2        Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

1.3        Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei chyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Dawn Bowden yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

 

(14.00 - 15.00)

2.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth ynghylch effaith Covid-19 ar blant sy'n agored i niwed gyda chynrychiolwyr y trydydd sector a staff rheng flaen

Allison Hulme, Cyfarwyddwr Cenedlaethol - BASW Cymru

Sarah Crawley, Cyfarwyddwr – Barnardos Cymru

Vivienne Laing, Polisi a Materion Cyhoeddus

Louise Israel, Uwch Oruchwyliwr ChildLine

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan NSPCC Cymru, Barnardo’s a Childline.

2.3 Cytunodd NSPCC Cymru i ddarparu rhagor o fanylion am y tueddiadau o ran galwadau i’r llinell gymorth.

 

(15.00)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod heddiw yn ystod eitem 4

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.10 - 15.30)

4.

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn flaenorol.

(15.30 - 16.30)

5.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth ynghylch effaith Covid-19 ar blant agored i niwed gyda phenaethiaid gwasanaethau plant a'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

Marian Parry Hughes, Pennaeth grŵp Penaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan

Sally Jenkins, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd – Cyngor Dinas Casnewydd

Craig McLeod, Uwch Reolwr Plant a'r Gweithlu – Cyngor Sir y Fflint

Jan Coles, Pennaeth Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Powys

Jane Randell, Cadeirydd – Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan benaethiaid gwasanaethau plant a’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol.

5.2 Cytunodd y penaethiaid gwasanaethau plant i ddarparu rhagor o wybodaeth am y cyswllt rheolaidd rhwng awdurdodau lleol a phlant a phobl ifanc yn eu hardaloedd.

 

6.

Papur i’w nodi

Cofnodion:

6.1 Cafodd y papur ei nodi.

 

6.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Lywodraeth Cymru - cais am ragor o fanylion yn dilyn y sesiynau tystiolaeth COVID-19

Dogfennau ategol:

(16.30)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.30 - 17.00)

8.

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn flaenorol.

 

8.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am y canlynol:

- i gael gweld y data a gyflwynir gan y gwasanaethau plant i Lywodraeth Cymru yn wythnosol; a

- rhagor o fanylion am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod plant nad yw’r gwasanaethau’n ymwybodol ohonynt ond sy’n agored i niwed, neu o bosibl yn agored i niwed, yn cael gwybodaeth am y ffyrdd gorau o gael mynediad at gymorth.