Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 28/04/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13:00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i
gyfarfod rhithwir cyntaf y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 1.2
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19,
dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y
Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. 1.3
Nododd y
Cadeirydd, pe bai hi am unrhyw reswm yn gadael y cyfarfod, cytunodd y Pwyllgor
y bydd Dawn Bowden AC yn dod yn Gadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog
17.22. 1.4
Ni
chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant. |
|
(13:00 - 14:00) |
COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Kirsty Williams
AC, y Gweinidog Addysg Steve
Davies, Cyfarwyddwr, Cyfarwyddiaeth Addysg Huw Morris, Cyfarwyddwr
Grŵp, Sgiliau, Addysg
Uwch a Dysgu Gydol Oes Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Bu’r Aelodau yn holi’r Gweinidog Addysg a’i
swyddogion am Covid-19 a’i effaith ar blant, ar bobl ifanc ac ar fyfyrwyr, ac
ymateb ei hadran hyd yma i’r pandemig. |
|
(14:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(14:00 - 14:30) |
Covid-19: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod
y sesiwn graffu. Cytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog i gael rhagor o wybodaeth
am rai o'r materion a godwyd yn ystod y sesiwn. |