Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/03/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau,
cafwyd ymddiheuriadau gan Siân Gwenllian AC, a dirprwyodd Helen Mary Jones AC
ar ei rhan. 1.2
Ymunodd Janet Finch-Saunders â'r cyfarfod drwy
fideo-gynadledda. 1.3
O dan Reol Sefydlog 17.24A
datganodd Lynne Neagle AC y byddai ei mab yn sefyll ei arholiadau Safon Uwch yn
yr haf. Datganodd Hefin David AC ei fod yn rhiant i blentyn ag Anghenion Dysgu
Ychwanegol. |
|
(09.30 - 10.30) |
Covid-19: sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Kirsty Williams AM, y Gweinidog Addysg Steve Davies, Cyfarwyddwr, Cyfarwyddiaeth Addysg Huw Morris, Cyfarwyddwr Grŵp SAUDGO Rob Orford, Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd Cofnodion: 2.1 Trafododd yr Aelodau covid-19 gyda'r Gweinidog. 2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar y materion a
ganlyn: ·
Sut y byddai’r cymhwyster
Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu yn cael ei asesu a, ·
Diweddariad ar y broses ar gyfer
disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol sy'n aros am atgyfeiriadau. |
|
Addysg Heblaw yn yr Ysgol - sesiwn dystiolaeth 7 - WEDI'I OHIRIO |
||
(10.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.30 - 10.45) |
Covid-19 – trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod
y sesiwn gyda’r Gweinidog Addysg. |
|
Craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 - trafod y camau nesaf - WEDI'I OHIRIO |
||
Iechyd Meddwl Amenedigol- Gwaith dilynol: ystyried y llythyr drafft - WEDI'I OHIRIO |