Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/02/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod; ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(09.30 - 10.40)

2.

Iechyd Meddwl Amenedigol: Gwaith dilynol – sesiwn dystiolaeth 1

Sian Harrop-Griffiths, Cyfarwyddwr Cynllunio a Strategaeth – Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Hazel Powell, Cyfarwyddwr Nyrsio’r Uned, Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu – Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Dr Alberto Salmoiraghi, Seiciatrydd Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Meddygol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dr Annmarie Schmidt, Seiciatrydd Ymgynghorol – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Carole Bell, Cyfarwyddwr Nyrsio – Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru

Carl Shortland, Uwch Gynllunydd Iechyd Meddwl – Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSCC).

 

(10.50 - 11.40)

3.

Iechyd Meddwl Amenedigol: Gwaith dilynol – sesiwn dystiolaeth 2

Sharon Fernandez, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Amenedigol - Rhaglen Gydweithredol GIG Cymru

Joanna Jordan, Cyfarwyddwr y Rhaglen Iechyd Meddwl Genedlaethol – Rhaglen Gydweithredol GIG Cymru

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gydweithrediad Iechyd GIG Cymru.

3.2 Cytunodd yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Amenedigol i ddarparu nodyn ar yr hyn a ganlyn:

·         faint o'r Hyrwyddwyr Iechyd Meddwl Amenedigol a Babanod a hyfforddwyd yn ddiweddar sy'n siarad Cymraeg;

·         cyfanswm safonau ansawdd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion sydd ar waith ar hyn o bryd.

 

 

(11.40)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i ofyn am eglurhad o ffocws y dadansoddiad o gyllid ysgolion a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, dan arweiniad Luke Sibieta.   

4.1

Llythyr gan yr NSPCC ynghylch y gwaith dilynol y mae'r Pwyllgor yn ei wneud ar iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

4.2

Llythyr gan Undebau Llafur ynghylch adolygiad Llywodraeth Cymru o ariannu ysgolion

Dogfennau ategol:

4.3

Llythyr gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynghylch ei ymchwiliad i fonitro a dadansoddi'r defnydd a wneir o ffrwyno plant mewn ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig yng Nghymru a Lloegr

Dogfennau ategol:

4.4

Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru ynghylch rheoleiddio ysgolion annibynnol

Dogfennau ategol:

4.5

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu'r ddarpariaeth cleifion mewnol i famau a babanod yng Nghymru

Dogfennau ategol:

(11.40)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.40 - 11.50)

6.

Iechyd Meddwl Amenedigol: Gwaith dilynol – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau tystiolaeth, a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyda’i ganfyddiadau.

 

(11.50 - 12.30)

7.

Hawliau Plant yng Nghymru – ystyried yr adroddiad drafft