Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/11/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AC,
ond nid oedd neb yn dirprwyo ar ei ran. |
|
(09.30 - 10.30) |
Diwygio’r cwricwlwm - sesiwn ar Ddyfodol Llwyddiannus i Bawb: Ymchwiliadau i ddiwygio’r cwricwlwm (Adroddiad Terfynol) Dr Nigel
Newton, Cydymaith
Ymchwil, WISERD - Prifysgol Caerdydd Mae’r
adroddiad i’w gyhoeddi ddydd Gwener 8 Tachwedd a disgwylir iddo fod ar gael
yma: https://wiserd.ac.uk/cy/cyhoeddiadau/dyfodol-llwyddiannus-i-bawb-ymchwiliadau-i-ddiwygior-cwricwlwm Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Cafodd
y Pwyllgor bapur briffio gan Dr Nigel Newton: 2.2
Cytunodd Dr Newton i ddarparu adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig, sef,
Dibenion Cyffredin - Goblygiadau diwygio’r cwricwlwm yng Nghymru i addysg
bellach, addysg uwch, sgiliau a busnes i’r Pwyllgor. |
|
(10.30) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 3.1 Nodwyd
y papurau. 3.2 Mewn
perthynas â’r ohebiaeth a ddaeth i law ar addysg ddewisol gartref, cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i: ·
ailadrodd
ei gred bod angen gweithredu i sicrhau bod plant sy’n cael eu haddysgu gartref
yn cael eu gweld a bod sgwrs yn cael ei chynnal â nhw am yr addysg â gânt, ac i
sicrhau eu bod yn hapus, yn iach ac yn ddiogel; ·
gofyn am
eglurhad ar y pwyntiau cyfreithiol a godwyd yn yr ohebiaeth ynghylch ar ba sail
y gellid llunio canllawiau arfaethedig; ·
gofyn am
fanylion ar ba weithdrefn a / neu broses ymgynghori (os o gwbl) y Cynulliad y
bydd y fersiynau terfynol o’r canlynol yn ddarostyngedig iddynt, a’r amserlenni
cysylltiedig ar gyfer pob un: - addysg gartref: canllawiau statudol
ar gyfer awdurdodau lleol a llawlyfr ar gyfer addysgwyr cartref; - rheoliadau a fyddai’n ei gwneud yn
ofynnol: i awdurdodau lleol gynnal a phoblogi cronfa ddata o blant o oedran
ysgol gorfodol yn eu hardal, i’w helpu i adnabod plant nad ydynt yn hysbys
iddynt; byrddau iechyd lleol i ddatgelu gwybodaeth anfeddygol i awdurdodau
lleol i helpu’r awdurdod i adnabod plant yn eu hardal; ac ysgolion annibynnol i
ddatgelu gwybodaeth i awdurdodau lleol am ddysgwyr yn yr ysgol annibynnol. |
|
Llythyr gan Amddiffyn Addysg Gartref Cymru ynghylch y canllawiau statudol drafft i awdurdodau lleol ar addysg yn y cartref Dogfennau ategol: |
||
Llythyr e-bost gan Ymddiriedolwr a Chyswllt Cymru ar gyfer Education Otherwise ynghylch y canllawiau statudol drafft ar gyfer awdurdodau lleol ar addysg yn y cartref. Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch addysg a gofal plentyndod cynnar Dogfennau ategol: |
||
(10.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.40 - 11.40) |
Craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 - trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 5.1
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. 5.2
Cytunodd yr Aelodau y byddai adroddiad diwygiedig yn cael ei ddosbarthu drwy
e-bost ar gyfer cytuno arno. |