Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/11/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau; ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i hawliau plant yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth gyda’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Karen Cornish, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Plant a Theuluoedd – Llywodraeth Cymru

David Pearce, Pennaeth y Gangen Plant – Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

2.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i roi manylion am y nifer o Weinidogion Cymru sydd wedi cael hyfforddiant penodol i'w helpu i gyflawni eu cyfrifoldeb cyfreithiol i roi 'sylw dyledus' i hawliau plant wrth wneud penderfyniadau yn eu portffolios. 

 

 

(10.45 - 12.00)

3.

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2018-19

Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru

Rachel Thomas, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus – Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru

 

Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Comisiynydd Plant Cymru ynglŷn â’i hadroddiad blynyddol.

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Comisiynydd gyda’r cwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth.

3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ar gyfer cyhoeddi'r canllawiau Teithio gan Ddysgwyr ar ei newydd wedd.

 

12.00

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

4.1

Gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Addysg ynghylch diwygio'r cwricwlwm yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 18 Medi

Dogfennau ategol:

4.2

Ymchwiliad i hawliau plant yng Nghymru - Gwybodaeth ychwanegol gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dilyn y cyfarfod ar 16 Hydref

Dogfennau ategol:

4.3

Llythyr gan y Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Diweddariad ar adroddiad 'Cadernid Meddwl' y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

4.4

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Cyfarwyddiadau diwygiedig ar gyfer darparu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru

Dogfennau ategol:

4.5

Llythyr gan Cymwysterau Cymru - Terfynu cymwysterau’r Dystysgrif Her Sgiliau Sylfaen (Ôl-16) a Chenedlaethol (Ôl-16)

Dogfennau ategol:

(12.00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig

 

(12.00 - 12.10)

6.

Ymchwiliad i hawliau plant yng Nghymru - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth.

 

(12.10 - 12.20)

7.

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2018-19 - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth.

 

(12.20 -12.40)

8.

Iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc - Gwaith dilynol - Trafod yr ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Addysg

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymateb. Cytunodd yr Aelodau:

·         y byddai amser yn cael ei neilltuo mewn cyfarfod yn y dyfodol i drafod yr ymateb a chamau nesaf y Pwyllgor yn fanylach;

·         i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i roi gwybod i’r Gweinidogion perthnasol am y bwriad hwn.