Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Nodyn briffio technegol Llywodraeth Cymru - Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor frîff ar y Bil.

 

(10.45 - 11.15)

3.

Trafod y dull gweithredu o ran y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu o ran y Bil. Cytunodd yr Aelodau ar y canlynol:

 

·         Y cylch gorchwyl drafft ar gyfer craffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1;

·         Cyhoeddi galwad agored am dystiolaeth ac ysgrifennu at randdeiliaid allweddol am dystiolaeth ysgrifenedig;

·         Rhestr o dystion ar gyfer sesiynau tystiolaeth lafar; a

·         Cynnal gweithgareddau ymgysylltu ehangach gyda Senedd Ieuenctid Cymru a gwahodd y ddau brif grŵp ymgyrchu (‘Sdim Curo Plant a Byddwch yn Rhesymol Cymru) i hwyluso grwpiau ffocws rhwng Aelodau ac oedolion.

 

(11.15 - 11.45)

4.

Pwysau Iach: Cymru Iach - ystyried yr ymateb drafft i'r ymgynghoriad

Cofnodion:

4.1 Yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd y Pwyllgor ar yr ymateb drafft i'r ymgynghoriad. Bydd yr ymateb yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn ei ddyddiad cau, sef 12 Ebrill.