Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/03/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AC a Michelle Brown AC. Nid oedd Aelodau'n dirprwyo ar eu rhan.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Craffu ar y Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach - sesiwn dystiolaeth

Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru

Nathan Cook, Pennaeth y Gangen Byw'n Iach ac Egnïol – Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Swyddog Meddygol yng nghyswllt y strategaeth ddrafft.

2.3 Cytunodd y Prif Swyddog Meddygol i ddarparu gwybodaeth yn egluro faint o arian a gafwyd gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad i'r ardoll diwydiant diodydd meddal.

 

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch gwasanaethau cleifion mewnol CAMHS Haen 4 yng Nghymru. 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ymateb i'r Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â Deiseb P-05-857 - Dylid creu Tasglu Cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl plant.

3.3 Cytunodd y Pwyllgor i dderbyn y cynnig ar gyfer sesiwn friffio ar asesiadau effaith gronnol gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

 

3.1

Llythyr gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSCC) - CAMHS: Darpariaeth ar gyfer Cleifion Mewnol

Dogfennau ategol:

3.2

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - CAMHS: Darpariaeth ar gyfer Cleifion Mewnol

Dogfennau ategol:

3.3

Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru - Gwasanaethau CAMHS haen 4 ar gyfer cleifion mewnol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

3.4

Llythyr gan sefydliad Cymwysterau Cymru at y Gweinidog Addysg - Cymwysterau ar gyfer y cwricwlwm newydd

Dogfennau ategol:

3.5

Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Addysg - Datblygu'r Cwricwlwm newydd i Gymru

Dogfennau ategol:

3.6

Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Addysg - y Cod drafft ar Anghenion Dysgu Ychwanegol

Dogfennau ategol:

3.7

Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Addysg - Gradd ar Wahân? Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

3.8

Llythyr gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol - Sesiwn friffio i'r Pwyllgorau ynghylch y model Asesu Effeithiau Cronnus

Dogfennau ategol:

3.9

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - Deiseb P-05-857 Dylid creu tasglu cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl plant

Dogfennau ategol:

3.10

Llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r UE gan Gomisiynydd Plant Lloegr, Comisiynydd Plant yr Alban, Comisiynydd Plant Cymru a Chomisiynydd Plant Gogledd Iwerddon - Brexit a’i oblygiadau i blant

Dogfennau ategol:

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.45 - 11.00)

5.

Craffu ar y Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn gyda'r Prif Swyddog Meddygol. Cytunodd y Pwyllgor i ystyried ymateb drafft i'r ymgynghoriad yn ystod y cyfarfod ar 28 Mawrth.

 

(11.00 - 11.45)

6.

Statws Cymhwyster Bagloriaeth Cymru - trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

6.1 Yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.

 

(11.45 - 12.30)

7.

Y Cod Drafft ar Anghenion Dysgu Ychwanegol - trafod yr ymatebion i'r ymgynghoriad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd y Pwyllgor ar yr ymateb drafft i'r ymgynghoriad.

 

(12.30 - 12.55)

8.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: Asesiadau effaith sy'n cyd-fynd â chyllidebau drafft - trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.

 

(12.55 - 13.00)

9.

Amserlen Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor amserlen y Bil.