Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/02/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a chafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant
AC. Nid oedd dirprwy ar ei ran. |
|
(09.30 - 10.30) |
Ymchwiliad i Gyllido Ysgolion - sesiwn dystiolaeth Tim Pratt,
Cyfarwyddwr - ASCL Cymru Lee
Cummins, Pennaeth Ysgol Emrys ap Iwan, Abergele - Is-Lywydd ASCL Rob Williams, Cyfarwyddwr - NAHT Cymru Dean
Taylor, Pennaeth Ysgol Gynradd Pentrepoeth, Casnewydd - Llywydd NAHT Cymru Tim
Newbould, Pennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Ysgol Penycae, Wrecsam - Aelod
Gweithredol o NAHT Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan ASCL a NAHT. 2.2
Gwnaethant gytuno i ddarparu gwybodaeth yn sgil cais rhyddid gwybodaeth gan
Awdurdodau Lleol ynghylch faint o arian a wariwyd ar welliannau ysgol. |
|
(10.40 - 11.40) |
Ymchwiliad i Gyllido Ysgolion - sesiwn dystiolaeth Tim Cox, Swyddog Gwaith Achos a Pholisi Cymru - NASUWT David
Evans, Ysgrifennydd Cymru - NEU Dilwyn
Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol - UCAC Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan NASUWT, NEU ac UCAC. |
|
(11.40) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 4.1 Cafodd
y papurau eu nodi. 4.2
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg ynghylch y llythyrau gan
ADEW a CLlLC ar y cynnydd wrth ddatblygu'r Cwricwlwm newydd yng Nghymru a'r
llythyr gan SNAP Cymru ar y cod Anghenion Dysgu Ychwanegol drafft. |
|
Llythyr gan y Gweinidog Addysg – Gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod ar 10 Ionawr Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan CLlLC - Cynnydd wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd i Gymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan CCAC - Cynnydd wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd i Gymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod ar 10 Ionawr Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Cadeirydd at dîm Amenedigol Gogledd Cymru yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 10 Ionawr Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at Darren Millar AC oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - ymgynghoriad ar "Pwysau Iach: Cymru Iach" Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - ymchwiliad i iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa'r heddlu Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – adroddiad Cadernid Meddwl y Pwyllgor: gwaith dilynol Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr SNAP Cymru – y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol drafft Dogfennau ategol: |
||
(11.40) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(xi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac ar gyfer y cyfarfod cyfan ar 6 Mawrth. Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.40 - 12.00) |
Ymchwiliad i Gyllido Ysgolion - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau. |
|
(12.00 - 12.30) |
Ymchwiliad i Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach - trafod ymateb Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1
Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth
Cymru. Cytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i gael eglurhad ynghylch
rhai o'r manylion yn yr ymateb. |