Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/02/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15 - 10.00)

1.

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Cofnodion:

1.1 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Hefin David fod ei ferch wedi cael diagnosis o awtistiaeth.

 

1.2 Ystyriodd y Pwyllgor ei flaenraglen waith. 

 

1.3 Trafododd yr Aelodau raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, â’r Biliau sy’n debygol o gael eu hanfon i’r Pwyllgor yn ymwneud â:

  • chael gwared ar amddiffyniad cosb resymol;
  • addysg ôl-orfodol a hyfforddiant;
  • diwygio'r cwricwlwm. 

 

1.4 Cytunodd yr Aelodau ar y dulliau a gymerir ar gyfer darnau penodol o waith maent wedi ymrwymo i’w cynnal, gan gynnwys:

  • gwaith craffu dilynol ar weithredu'r argymhellion yn ei adroddiad Cadernid Meddwl;
  • Adolygiad Diamond a gwaith craffu ariannol yn ystod y flwyddyn: cyllid Addysg Uwch ac Addysg Bellach;
  • Craffu ôl-ddeddfu ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015. 

 

1.5 Cytunodd yr Aelodau i ystyried, maes o law, gwmpas y gwaith ar:

  • wella ysgolion a chodi safonau;
  • Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCDau), gwaharddiadau ac addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS);
  • Craffu ôl-ddeddfu ar Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011;
  • Gwaith craffu dilynol ar weithredu argymhellion ei adroddiad Dechrau'n Deg: Allgymorth

 

 

(10.00 - 12.30)

2.

Cod drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) - gweithgor gyda rhanddeiliaid (gwahoddedig yn unig)

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor y cod drafft gyda rhanddeiliaid. Byddai'r dystiolaeth yn llywio ymateb y Pwyllgor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.