Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/06/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriad gan Darren Millar. Nid oedd dirprwy yno ar ei ran.

 

(09:30 - 11:00)

2.

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 9

Llywodraeth Cymru

Huw Irranca-Davies AC, y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol

Owain Lloyd, Dirprwy Gyfarwyddwr - yr Is-adran Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar

Nicola Edwards, Pennaeth Datblygu’r Cynnig Gofal Plant

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i roi nodyn ar statws a chyllid y 10 awr o gymorth yn y cyfnod sylfaen, ynghyd ag i ba raddau y caiff ei ddiogelu.

 

(11:00)

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

 

3.1

Llythyr gan Gyngor Sir y Fflint - Cynnig Gofal Plant i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyngor Sir y Fflint am ragor o dystiolaeth ynghylch y Cynnig Gofal Plant.

 

 

3.2

Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru - Cyfnod Esemptio Dros Dro mewn perthynas â Chynnig Gofal Plant i Gymru

Dogfennau ategol:

3.3

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Cod Trefniadaeth Ysgolion

Dogfennau ategol:

(11:00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod ar 20 Mehefin

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11:10 - 11:20)

5.

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn.

 

(11:20 - 12:00)

6.

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull gweithredu ar gyfer gwaith yn y dyfodol yn ymwneud â:

·         Cyllido Ysgolion

·         Gwaith Athrawon Cyflenwi

·         Strategaeth Gordewdra Genedlaethol

·         Craffu ar ôl deddfu ar Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru)

·         Craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

 

 

(12:00 - 13:00)

7.

Darparu gwerslyfrau ac adnoddau dysgu i ddisgyblion - trafod yr adroddiad drafft (GOHIRIWYD)