Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/06/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau, nid oedd dim ymddiheuriadau.

 

(09:30 - 10:15)

2.

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 6

Estyn

Claire Morgan, Cyfarwyddwr Strategol

Mererid Wyn Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol

Jane Rees, Arolygydd EM

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Estyn.

 

2.2 Cytunodd i roi eglurhad ynghylch a oedd y 35,000 o blant yn y garfan yn cynnwys plant a anwyd yn yr hydref a'r haf.

 

 

 

(10:15 - 11:00)

3.

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 7

Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru

Gemma Halliday, Rheolwr Datblygu'r Gweithlu – Cyngor Gofal Cymru

Kevin Barker – Pennaeth Arolygu Gofal Plant a Chwarae

Gill Huws-John - Uwch Reolwr – Arolygu Gofal Plant a Chwarae

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan AGC a GCC.

 

3.2 Cytunodd AGC i rannu manylion canlyniadau'r gwerthusiad o raglen beilot fframwaith cyd-arolygu Estyn-AGC.

 

 

(11:15 - 12:00)

4.

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 8

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru

Esther Thomas, Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Bwrdeistref Sirol RCT – Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru

Catrin Edwards, Pennaeth Trawsnewid Gwasanaeth - Cyngor Bwrdeistref Sirol RCT - Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru

Catherine Davies, Swyddog Polisi Dysgu Gydol Oes (Plant) – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Sarah Mutch, Arweinydd Addysg ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Phartneriaethau - Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru.

 

4.2 Cytunodd aelodau'r panel i ddarparu nodyn am y canlynol:

 

Faint o awdurdodau lleol sy'n rhoi dewis i rieni rhwng lleoliadau nas cynhelir a lleoliadau a gynhelir ar gyfer mynediad at yr hawl i gyfnod sylfaen y blynyddoedd cynnar.

 

Y cyfraddau fesul awr y mae awdurdodau lleol yn talu i leoliadau a gynhelir a lleoliadau nas cynhelir ar gyfer darparu'r hawl i gyfnod sylfaen y blynyddoedd cynnar.

 

 

 

(12:00)

5.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

5.1

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - lefel yr ymgysylltiad rhwng Llywodraeth Cymru a'r Athro Ainscow

Dogfennau ategol:

5.2

Llythyr gan y Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol - gwybodaeth bellach yn dilyn y cyfarfod ar 16 Mai

Dogfennau ategol:

5.3

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Cefnogaeth i Ddysgwyr o Leiafrifoedd Ethnig, Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Dogfennau ategol:

(12:00)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12:00 - 12:10)

7.

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y bore.

 

(12:10 - 12:45)

8.

Ymchwiliad i Gyllid wedi’i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol - trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

8.1 Yn amodol ar fân newidiadau, derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.