Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/05/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriad gan Darren Millar. Nid oedd dirprwy yno ar ei ran.

 

(09:30 - 10:45)

2.

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 1

Llywodraeth Cymru

Huw Irranca-Davies AC, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant

Owain Lloyd, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar

Tracy Hull, Cyfreithwraig, Tîm Gofal Plant

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r canlynol:
Nodyn ar incwm teulu y rhai sy'n cael cymorth gofal plant o dan y cynllun peilot presennol;

Copi o ganllawiau i Awdurdodau Lleol sy’n Weithredwyr Cynnar.

 

(11:00 - 11:45)

3.

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 2

Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru

Rachel Thomas, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus, Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Comisiynydd Plant.

 

(11:45)

4.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

4.1

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Cod Trefniadaeth Ysgolion

Dogfennau ategol:

4.2

Llythyr at y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant - Grant Cyflawni Plant a Theuluoedd

Dogfennau ategol:

(11:45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11:45 - 12:00)

6.

Bil Cyllid Gofal Plant (Cymru) - Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd.

 

(12:00 - 12:10)

7.

Blaenraglen Waith - dull gweithredu'r ymchwiliad i statws Bagloriaeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl a'r dull o gasglu tystiolaeth a gwaith ymgysylltu.