Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/11/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Michelle Brown, Julie Morgan a Llyr Gruffydd. Nid oedd unrhyw ddirprwyon.

1.2        O dan Reol Sefydlog 17.24, datganodd Darren Millar AC ei fod yn rhiant i ddisgyblion yn Sir Ddinbych ac yn aelod o gorff llywodraethu sydd â diffyg yn y gyllideb. 

 

(09:00 - 09:45)

2.

Craffu ar Gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018 - 19

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Huw Irranca-Davies AC, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant

Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru

Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Lywodraeth Cymru ar y gyllideb ddrafft.

 

(09:45 - 11:00)

3.

Craffu ar Gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018 - 19

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg 

Steve Davies, Cyfarwyddwr - y Gyfarwyddiaeth Addysg

Huw Morris, Cyfarwyddwr Sgiliau - Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Lywodraeth Cymru ar y gyllideb ddrafft. Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu nodyn ar y canlynol:

 

·         Gohebiaeth Llywodraeth Cymru gydag awdurdodau lleol Powys a Sir Ddinbych ynglŷn â rheoli cronfeydd wrth gefn ysgolion;

 

·         Dadansoddiad o ddyraniad £25 miliwn y BEL Codi Safonau Ysgolion ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19;

 

·         Rhagor o wybodaeth am ddigonolrwydd cefnogaeth Awdurdodau Lleol a chonsortia rhanbarthol i lywodraethwyr;

 

·         Y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o waith rhanbarthol yng nghyd-destun llywodraethu ysgolion;

 

·         Nodyn ar y memorandwm o ddealltwriaeth newydd ynghylch gwariant yr EIG;

 

·         Diweddariad ar nifer y ceisiadau gan awdurdod lleol i leihau maint dosbarthiadau babanod yn ôl awdurdod lleol.

 

(11:00)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

 

4.1

Papur Llywodraeth Cymru ar linellau'r gyllideb ar gyfer sgiliau a gwyddoniaeth (a gyflwynwyd ar y cyd i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg)

Dogfennau ategol:

4.2

Llythyr gan Fwrdd Prifysgol Cwm Taf - Adroddiad ar Iechyd Meddwl Amenedigol

Dogfennau ategol:

4.3

Llythyr gan Lywodraeth Cymru - Ysgolion Bro

Dogfennau ategol:

4.4

Llythyr gan y Comisiynydd Plant - camau dilynol yn sgil y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Hydref ar yr adroddiad blynyddol

Dogfennau ategol:

4.5

Llythyr gan Lywodraeth Cymru - Teithio gan Ddysgwyr

Dogfennau ategol:

4.6

Llythyr gan Lywodraeth Cymru - camau dilynol yn sgil y sesiwn graffu gyffredinol a gynhaliwyd ar 18 Hydref ar addysg uwch ac addysg bellach

Dogfennau ategol:

4.7

Llythyr at Lywodraeth Cymru - cyllid i sefydliad Llywodraethwyr Cymru

Dogfennau ategol:

4.8

Llythyr gan Lywodraeth Cymru - camau dilynol pellach yn sgil y sesiwn graffu gyffredinol a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf

Dogfennau ategol:

4.9

Llythyr gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru - Adroddiad ar Iechyd Meddwl Amenedigol

Dogfennau ategol:

4.10

Blaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

(11:00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(11:00 - 11:45)

6.

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)