Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld
trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 225 KB) Gweld
fel (HTML 210 KB) |
||
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
(09.30 - 10.30) |
Ymchwiliad i ddarpariaeth eiriolaeth statudol - sesiwn dystiolaeth 4 Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Albert Heaney, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ac
Integreiddio Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr Galluogi Pobl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a
Phlant. Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu nodyn ar y ddarpariaeth ariannol
benodol mewn perthynas â nifer y plant a allai fod yn gymwys i gael darpariaeth
eiriolaeth proffeisynol statudol. |
|
(10.30 - 11.30) |
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cymwysterau Cymru Philip Blaker, Prif Weithredwr Ann Evans,
Cadeirydd - Bwrdd Cymwysterau Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Gwnaeth y Pwyllgor graffu ar Adroddiad Blynyddol Cymwysterau Cymru. |
|
Papurau i’w nodi Cofnodion: Nodwyd y papur. |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod ar 10 Tachwedd Dogfennau ategol: |
||
(11.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn Cofnodion: Derbyniwyd y Cynnig. |
|
(11.30 - 11.50) |
Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysgiadol (Cymru) - Trafod y dull gweithredu Papur preifat? Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei ddull o ran y Bil a chytunwyd arno. |
|
(11.50 - 12.10) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil – Trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Byddai
adroddiad drafft yn cael ei drafod yn y cyfarfod nesaf. |