Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau.  Cafwyd ymddiheuriadau gan Mark Reckless; dirprwyodd Michelle Brown ar ei ran.

(09.30 - 10.30)

2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Trafod blaenoriaethau'r portffolio

Kirsty Williams AC – Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Owen Evans - Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol Group Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus

Steve Vincent - Dirprwy Cyfarwyddwr, Yr Is-adran Rheolaeth ac Effeithiolrwydd Ysgolion

Huw Morris – Cyfarwyddwr Grŵp, SAUDGO

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

O dan Reol Sefydlog 17.24, datganodd Llyr Gruffydd AC fuddiant perthnasol, sef ei fod yn llywodraethwr ysgol.  Datganodd Hefin David ei fod yn uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a bod gan Goleg Cymraeg safle yn y brifysgol.

Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu'r canlynol:

 

Mwy o fanylion am yr ymchwil annibynnol gan Brifysgol Caerdydd ar y grant amddifadedd disgyblion.

 

Rhaglen gwerthuso Her Ysgolion Cymru, pan fydd ar gael.

 

Nodyn am ddyfodol gwasanaethau ieuenctid yng Nghymru.

(10.40 - 11.40)

3.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Trafod blaenoriaethau'r portffolio

Carl Sargeant AC – Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Albert Heaney - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio

Jo-Anne Daniels - Cyfarwyddwr, Cymmunedau ac Trechu Tlodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu'r canlynol:

 

Y wybodaeth ddiweddaraf am amserlenni ar gyfer cyhoeddi'r cynlluniau 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu gofal plant a blynyddoedd cynnar.

 

Nodyn am gyhoeddi asesiad o'r effaith ar hawliau plant (CRIA).  

4.

Gohebiaeth gan y Llywydd at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Eich penodiad yn Gadeirydd Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y papur.

(11.40)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(11.40 - 12.00)

6.

Cyfrifoldebau'r Pwyllgor a materion y Pumed Cynulliad

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i wasanaethau ieuenctid yng Nghymru ac i ymgynghori â rhanddeiliaid ar eu blaenoriaethau ar gyfer y Pumed Cynulliad.