Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/03/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

 

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

 

1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies AS, roedd Paul Davies yn bresennol ar ei rhan fel eilydd. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan David Jones, Cadeirydd Cymwysterau Cymru.

 

(09.15-10.15)

2.

COVID-19: addysg uwch

Dr Ben Calvert, Cadeirydd Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu Prifysgolion Cymru a Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru

Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru

Kieron Rees, Pennaeth Polisi a Materion Allanol, Prifysgolion Cymru

Dr David Blaney, Prif Weithredwr, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Bethan Owen, Dirprwy Brif Weithredwr, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth yn ymwneud ag effaith COVID-19 ar addysg uwch a myfyrwyr yn y sector addysg uwch.

 

(10.30-11.30)

3.

COVID-19: addysg bellach

Philip Blaker, Prif Weithredwr, Cymwysterau Cymru

David Jones, Cadeirydd, Cymwysterau Cymru

Denver Davies, Pennaeth Monitro a Chydymffurfiaeth, Cymwysterau Cymru

Yana Williams, Prif Weithredwr, Coleg Cambria

Barry Walters, Pennaeth Coleg Sir Benfro

Karen Phillips, Pennaeth Coleg y Cymoedd

 

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth yn ymwneud ag effaith COVID-19 ar addysg bellach a myfyrwyr yn y sector addysg bellach.

 

(11.30)

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Llythyr gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Rheoleiddio yn y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ynghylch cyhoeddi adolygiad i'r dull o ddatblygu modelau ystadegol ar gyfer dyfarnu graddau yn 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1a Cafodd y papur ei nodi.

 

4.2

Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Cyfarfod Gweinidogol Sector Gwaith Cynhwysiant Digidol y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2a Cafodd y papur ei nodi.

 

4.3

Crynodeb o'r drafodaeth ford gron a gynhaliwyd gyda'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y cynnydd a wnaed o ran hawliau plant yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3a Cafodd y papur ei nodi.

 

(11.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.30-11.45)

6.

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd o dan eitemau 2 a 3.