Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/03/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond y byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv

1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi penderfynu, pe bai hi’n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

1.4 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(09.15 - 10.45)

2.

COVID-19: iechyd meddwl ac iechyd corfforol

Yr Athro Ann John, Athro Iechyd y Cyhoedd a Seiciatreg yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe a Chadeirydd y Grŵp Cynghori Cenedlaethol i Lywodraeth Cymru ar atal hunanladdiad a hunan-niweidio

Yr Athro Alka Ahuja, Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a’r Glasoed, ac Arweinydd Clinigol Cenedlaethol, Gofal a Alluogir gan Dechnoleg (TEC Cymru), ac Arweinydd Ymgysylltu â'r Cyhoedd, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru

Yr Athro Adrian Edwards, Athro Ymarfer Cyffredinol ym Mhrifysgol Caerdydd, a Chyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth newydd Cymru ar gyfer COVID-19, Cyfarwyddwr Canolfan PRIME Cymru (canolfan Cymru gyfan ar gyfer ymchwil gofal sylfaenol a gofal brys) a meddyg teulu rhan amser

Dr David Tuthill, Pediatregydd Ymgynghorol a Swyddog Cymru yng Ngholeg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Ann John, yr Athro Alka Ahuja, yr Athro Adrian Edwards a Dr David Tuthill ar faterion sy’n ymwneud ag effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc.

 

(10.45)

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

3.1

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch atgyfeiriadau diogelu a phlant sy’n derbyn gofal

Dogfennau ategol:

3.2

Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc yn dychwelyd i addysg

Dogfennau ategol:

3.3

Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch adolygiad o’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn arfer ei swyddogaethau: Addysg yn y cartref ac ysgolion annibynnol

Dogfennau ategol:

3.4

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Adroddiad ar gydymffurfio â’r ddyletswydd o dan adran un o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

Dogfennau ategol:

3.5

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Addysg ynghylch gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Dogfennau ategol:

(10.45)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.45 - 11.00)

5.

Covid-19 Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.