Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/02/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

 

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

 

1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

1.4 Ni chafwyd ymddiheuriadau. Nododd y Cadeirydd y byddai angen i Suzy Davies AS adael y cyfarfod am 11am.

 

(09.15-10.15)

2.

COVID-19: addysg statudol

Luke Sibieta, Cymrawd Ymchwil yn y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a’r Sefydliad Polisi Addysg

Yr Athro Chris Taylor, Athro Addysg a Chyfarwyddwr Academaidd y Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) - Prifysgol Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Hefin David AS fod gan ei ferch Anghenion Dysgu Ychwanegol.

2.2 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Luke Sibieta a’r Athro Chris Taylor ar faterion yn ymwneud ag effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc.

2.3 Cytunodd Luke Sibieta y byddai’n rhoi unrhyw dystiolaeth ystadegol i’r Pwyllgor sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phresenoldeb plant sy'n agored i niwed yn yr ysgol, gan gynnwys y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol yn ystod y cyfnodau o gyfyngiadau symud, ac a oedd profiadau wedi amrywio ledled Cymru.

 

(10.30-11.30)

3.

COVID-19: addysg statudol

Gareth Evans, Cyfarwyddwr Polisi Addysg, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Yr Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-Ganghellor a Deon Gweithredol yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

 

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gareth Evans a’r Athro Dylan Jones ar faterion yn ymwneud ag effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc.

 

(11.30-11.35)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch atgyfeiriadau Diogelu a Phlant sy'n Derbyn Gofal

Dogfennau ategol:

4.2

Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r rheoliadau cysylltiedig

Dogfennau ategol:

4.3

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Addysg ynghylch effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc yn dychwelyd i addysg

Dogfennau ategol:

4.4

Llythyr gan Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dilyn y cyfarfod ar 14 Ionawr 2021

Dogfennau ategol:

4.5

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Addysg ynghylch gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Dogfennau ategol:

4.6

Gwybodaeth ychwanegol gan gynrychiolwyr Llywodraeth Leol yn dilyn y cyfarfod ar 28 Ionawr 2021

Dogfennau ategol:

4.7

Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dilyn trafodion Cyfnod 2

Dogfennau ategol:

(11.35)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.35-11.50)

6.

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.

 

(11.50-12.20)

7.

COVID-19: y diweddaraf ynghylch ymgysylltu â myfyrwyr prifysgol

Cofnodion:

7.1 Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad ar ganfyddiadau'r grwpiau ffocws rhithwir a gynhaliwyd gyda myfyrwyr. Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r wybodaeth yn cael ei defnyddio i lywio'r sesiynau tystiolaeth gyda chynrychiolwyr o addysg uwch ac addysg bellach. a drefnwyd ar gyfer 11 Mawrth 2021.