Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/01/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

 

1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Suzy Davies AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AS. Dirprwyodd Vikki Howells AS ar ei rhan.

 

(09.00 - 09.30)

2.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Huw Morris - Cyfarwyddwr Grŵp Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru

Steve Davies, Cyfarwyddwr, Cyfarwyddiaeth Addysg, Llywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg.

 

(09.30 - 10.30)

3.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Huw Morris - Cyfarwyddwr Grŵp Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru

Steve Davies, Cyfarwyddwr, Cyfarwyddiaeth Addysg, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog Addysg mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22.

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am y materion a ganlyn:

- sut mae'r £29 miliwn ar gyfer y rhaglen 'Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau' wedi'i wario hyd yma ac wedi'i ddyrannu ar gyfer 2021 - 2022;

- manylion y newidiadau demograffig a ddisgwylir yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf mewn perthynas â'r cynnydd o £21.7 miliwn mewn cyllid 6ed Dosbarth ac Addysg Bellach.

3.3 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'n mynd ar drywydd y ceisiadau hyn yn ei adroddiad ar y Gyllideb Ddrafft.

 

 

 

(10.45 - 12.00)

4.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Albert Heaney, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru

Claire Bennett, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi - Llywodraeth Cymru 

Tracey Breheny, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Camddefnyddio Sylweddau a Grwpiau Agored i Niwed - Llywodraeth Cymru 

Dr Heather Payne, Uwch-swyddog Meddygol ar gyfer Iechyd Mamau a Phlant – Llywodraeth Cymru

Steve Elliot, Dirprwy Cyfarwyddwr Cyllid – Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidogion mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22.

4.2 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu nodyn ar y dangosyddion a ddefnyddir ar gyfer y fformiwla newydd i ddyrannu cyllid i fyrddau iechyd a sut y mae'n ystyried anghenion a nodweddion penodol y boblogaeth mewn gwahanol rannau o Gymru.

4.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu nodyn am yr £8 miliwn a gafodd awdurdodau lleol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a phlant o dan y gronfa caledi llywodraeth leol.

4.4 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd i ddarparu adroddiad fframwaith canlyniadau traws-Lywodraethol i'r Pwyllgor sy'n ymwneud â'r grant Plant a Chymunedau, pan fydd ar gael.

3.3 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'n mynd ar drywydd y ceisiadau hyn yn ei adroddiad ar y Gyllideb Ddrafft.

 

 

 

 

 

(12.00)

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

5.1

Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a'r Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22

Dogfennau ategol:

5.2

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2022

Dogfennau ategol:

5.3

Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 26 Tachwedd 2020

Dogfennau ategol:

5.4

Llythyr oddi wrth Gomisiynydd Plant Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru):

Dogfennau ategol:

(12.00)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.00 - 12.30)

7.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.