Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/10/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Ychwanegodd y Cadeirydd y byddai’r cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv.

1.3 Nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, y byddai Suzy Davies AS yn cymryd yr awenau fel Cadeirydd dros dro os byddai’n rhaid iddi adael y cyfarfod am unrhyw reswm.

1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AS, gyda Jack Sargeant AS yn dirprwyo ar ei rhan.

 

 

 

(09.30 - 11.30)

2.

Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 12 gyda chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg - Llywodraeth Cymru

Georgina Haarhoff, Dirprwy Gyfarwyddwr - Cwricwlwm ac Asesu - Llywodraeth Cymru

Kate Johnson, Uwch-gyfreithiwr - Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg.

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn iddi egluro meysydd penodol a drafodwyd yn ystod y sesiwn ac i ofyn y cwestiynau nad oedd amser i’w trafod.

2.3. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn:

·         esboniad ysgrifenedig pam, ym marn Llywodraeth Cymru, y byddai’n amhriodol rhoi dyletswyddau ar bobl/cyrff perthnasol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Bil i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac mai dim ond y Llywodraeth a’r Gweinidogion ddylai fod â dyletswydd o’r fath;

·         manylion y gwelliannau/gwelliant y mae’n bwriadu eu cyflwyno, os yw’r Bil yn symud ymlaen at Gyfnod 2, mewn perthynas â’r gofyniad i addysgu Saesneg cyn 7 oed a galluogi trochi yn y Gymraeg;

·         y wybodaeth ddiweddaraf am yr amcangyfrifon o ran costau’r Bil ar ôl ailddechrau a chwblhau’r gwaith perthnasol gyda rhanddeiliaid.

 

 

(11.30)

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

3.1

Llythyr gan Gymwysterau Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 18 Awst

Dogfennau ategol:

3.2

Llythyr gan Brifysgol Bangor at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch y trefniadau i gefnogi myfyrwyr yng ngoleuni COVID-19 (Saesneg yn unig)

Dogfennau ategol:

(11.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Cafodd y cynnig ei gytuno.

 

(11.30)

5.

Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn flaenorol.

 

(12.00 - 12.30)

6.

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith, gan gytuno ar y materion a ganlyn:

- i gynnal sesiwn dystiolaeth y tymor nesaf i drafod busnes sy’n gysylltiedig â COVID-19;

- dull ar gyfer y gwrandawiad cyn penodi’r ymgeisydd a ffafrir ar gyfer rôl Cadeirydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;

- i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i gyflwyno crynodeb o ganfyddiadau’r Pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad byr i wella ysgolion a chodi safonau, a oedd wedi’i oedi oherwydd y pandemig;

- pa feysydd yr hoffai’r Pwyllgor ganolbwyntio arnynt ym mhob sesiwn ar yr Adroddiad Blynyddol;

- i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am wybodaeth ysgrifenedig fanwl i helpu i lywio gwaith craffu’r Pwyllgor ar y gyllideb ddrafft;

- i ddychwelyd at y drafodaeth ar gyllid ysgolion yn y dyfodol;

- i ddychwelyd at y drafodaeth ar waith ar etifeddiaeth y Pwyllgor yn y dyfodol; a

- bod staff y Pwyllgor yn cadw llygad ar fframweithiau cyffredin y DU sy’n berthnasol i waith y Pwyllgor.