Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/11/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi’n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AS. Roedd Jack Sargeant AS yn dirprwyo ar ei ran.

 

(09.15)

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 3.

Cofnodion:

2.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(09.15 - 10.45)

3.

Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau benodau o’r adroddiad drafft. Byddai’r adroddiad drafft yn cael ei ystyried eto mewn cyfarfod ffurfiol preifat ddydd Llun 30 Tachwedd.

 

(11.00 - 12.15)

4.

Covid-19: sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg

Steve Davies, Cyfarwyddwr, Cyfarwyddiaeth Addysg

Huw Morris, Cyfarwyddwr Grŵp, Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

Tracey Breheny, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Camddefnyddio Sylweddau a Grwpiau Agored i Niwed

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg a’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg.

4.2 Cytunodd y Gweinidog Addysg i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am y gallu a’r cynlluniau sydd ar waith ar gyfer profi myfyrwyr prifysgol cyn iddynt ddod adref dros gyfnod y Nadolig ar gyfer pob sefydliad yng Nghymru.

 

(12.15)

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

5.1

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ynghylch COVID-19 ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

Dogfennau ategol:

5.2

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ynghylch COVID-19 ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

Dogfennau ategol:

5.3

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan Gyfarwyddwr Interim Nyrsio a Phrofiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ynghylch COVID-19 ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc

Dogfennau ategol:

5.4

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch COVID-19 ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

Dogfennau ategol:

5.5

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghylch COVID-19 ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

Dogfennau ategol:

5.6

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ynghylch COVID-19 ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

Dogfennau ategol:

5.7

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghylch COVID-19 ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

Dogfennau ategol:

5.8

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Lywodraeth Cymru ynghylch y cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant dysgwyr

Dogfennau ategol:

5.9

Llythyr gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ategol:

5.10

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Addysg ynghylch effaith Covid-19 ar ddysgu ac addysgu o bell

Dogfennau ategol:

5.11

Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch effaith Covid-19 ar ddysgu ac addysgu o bell

Dogfennau ategol:

5.12

Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Deiseb P-05-1024 Er mwyn i ymwybyddiaeth amgylcheddol gael ei gwneud yn orfodol ac yn fodiwl allweddol o fewn Ysgolion yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn (Addysg Gynradd ac Uwchradd)

Dogfennau ategol:

5.13

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2022

Dogfennau ategol:

5.14

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2022

Dogfennau ategol:

5.15

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan y Gweinidog Addysg ynghylch penodi Cadeirydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Dogfennau ategol:

(12.15)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac ar gyfer y cyfarfod cyfan ar 30 Tachwedd.

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.15 - 12.30)

7.

Covid-19 – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i amlinellu ei farn.