Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 15/10/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Yn sgil methiant
technegol, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, cadeiriwyd y cyfarfod dros dro gan
Dawn Bowden AS wrth i Lynne Neagle, y Cadeirydd, ail-ymuno. 1.2 Croesawodd Dawn Bowden AS
yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 1.3 Dywedodd Dawn Bowden AS
fod y Cadeirydd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, wedi penderfynu gwahardd y
cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod
yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv. 1.4 Nodwyd ymddiheuriadau
gan Suzy Davies AS ar gyfer yr ail sesiwn dystiolaeth. |
|
(09.15 - 10.15) |
Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth 10 gyda Chynrychiolwyr Grwpiau Ffydd, Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol Cymru a'r Panel Ymgynghorol Cenedlaethol Addysg Grefyddol Angela Keller, Cynghorydd Cymru - Gwasanaeth Addysg
Gatholig Elizabeth Thomas, Cyfarwyddwr Addysg Daleithiol - yr
Eglwys yng Nghymru Paula Webber, Swyddog Gweithredol - Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol
Sefydlog ar Addysg Grefyddol. (CYSAGau) Libby Jones, Cadeirydd - y Panel Ymgynghori Cenedlaethol
ar Addysg Grefyddol (PYCAG) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor
dystiolaeth gan y Gwasanaeth Addysg Gatholig, yr Eglwys yng Nghymru, Cymdeithas
Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAGau) a'r Panel Ymgynghori
Cenedlaethol ar Addysg Grefyddol (PYCAG) 2.2 Cytunodd y Gwasanaeth
Addysg Gatholig i rannu â'r Pwyllgor bapur ganddo sy’n manylu ei bryderon
ynghylch effaith darparu dau faes llafur o bosibl o dan ddarpariaethau CGM y
Bil. |
|
(10.35 - 11.35) |
Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) – sesiwn dystiolaeth 11 gyda chynrychiolwyr grwpiau anghrefyddol Dr Ruth
Wareham, Rheolwr Ymgyrchoedd Addysg -
Dyneiddwyr y DU Kathy Riddick, Cydlynydd Dyneiddwyr Cymru - Dyneiddwyr y
DU Alastair Lichten, Pennaeth Addysg ac Ysgolion - y
Gymdeithas Seciwlar Genedlaethol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor
dystiolaeth gan Ddyneiddwyr
y DU a'r Gymdeithas Seciwlar Genedlaethol. |
|
(11.35) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 4.1 Cafodd y papurau eu
nodi. |
|
Llythyr gan Goleg Caerdydd a’r Fro at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch trefniadau i gefnogi myfyrwyr yng sgil COVID-19 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Brifysgol Wrecsam Glyndŵr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch trefniadau i gefnogi myfyrwyr yng sgil COVID-19 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch trefniadau i gefnogi myfyrwyr yng sgil COVID-19 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch trefniadau i gefnogi myfyrwyr yng sgil COVID-19 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Brifysgol Dr Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch trefniadau i gefnogi myfyrwyr yng sgil COVID-19 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Brifysgol Abertawe at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch trefniadau i gefnogi myfyrwyr yng sgil COVID-19 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Brifysgol Caerdydd at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch trefniadau i gefnogi myfyrwyr yng sgil COVID-19 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Brifysgol Aberystwyth at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch trefniadau i gefnogi myfyrwyr yng sgil COVID-19 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gymwysterau Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 17 Medi Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn tynnu sylw at bryderon a godwyd yn ei ymchwiliad i COVID-19 Dogfennau ategol: |
||
(11:35) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.35 - 11.45) |
Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y
dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol. |
|
(11.45 - 12.15) |
Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): cyflwyno'r dadansoddiad o dystiolaeth ysgrifenedig Cofnodion: 7.1 Cafodd y Pwyllgor
gyflwyniad gan Wavehill o'r dadansoddiad o dystiolaeth ysgrifenedig. |
|
(12.15 - 12.30) |
Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor Cofnodion: 8.1 Oherwydd prinder amser,
symudwyd yr eitem hon i'r cyfarfod nesaf, a gynhelir ar 21 Hydref 2020. |