Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/07/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

 

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

1.4 Nododd y Cadeirydd ymddiheuriadau gan Hefin David AS. Dirprwyodd Jayne Bryant AS ar ei ran.

 

 

(13.00 - 14.00)

2.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Steve Davies, Cyfarwyddwr y Cyfarwyddiaeth Addysg

Huw Morris, Cyfarwyddwr Grŵp, Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Holodd yr Aelodau’r Gweinidog Addysg am COVID-19 a'i effaith ar blant a phobl ifanc.

2.2 Cytunodd y Gweinidog a'i swyddogion i rannu’r canlynol â'r Pwyllgor:

 - adolygiad o ddysgu cyfunol a gynhaliwyd gan y consortia addysg rhanbarthol a manylion y camau a gymerwyd o ganlyniad iddo; a

- phapur a gyhoeddwyd ar y cyd ag Estyn a'r consortia addysg rhanbarthol yn rhoi mwy o fanylion am gyngor i ysgolion ynghylch dysgu cyfunol.

2.3 Cytunwyd y byddai cwestiynau nas gofynnwyd yn cael eu hanfon at y Gweinidog am ymateb ysgrifenedig.

 

 

(14.00)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 4 a 5

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.10 - 14.30)

4.

Covid-19 – ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.

 

(14.30 - 15.30)

5.

Briff technegol Llywodraeth Cymru ynghylch deddfwriaeth sydd ar ddod

Cofnodion:

5.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gan swyddogion Llywodraeth Cymru.

 

(15.40 - 16.00)

6.

Trafod deddfwriaeth sydd ar ddod

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y ddeddfwriaeth sydd ar ddod.

 

(16.00 - 16.30)

7.

COVID-19: sesiwn dystiolaeth ar effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc gyda chynrychiolwyr Race Council Cymru

Angel Ezeadum, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru

Ali Abdi, Prif Gydgysylltydd y Fforwm Ieuenctid BAME Cenedlaethol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Race Council Cymru ar effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc o'r gymuned BAME.

 

(16.30)

8.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

8.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

8.1

Llythyr gan y Cadeirydd at Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ynghylch effaith Covid-19 ar unedau cleifion mewnol CAMHS

Dogfennau ategol:

8.2

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - ymateb i lythyr y Pwyllgor ar 27 Mai yn gofyn am ragor o wybodaeth am effaith Covid-19 ar blant agored i niwed

Dogfennau ategol:

8.3

Gwybodaeth ychwanegol gan y Coleg Nyrsio Brenhinol yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 9 Mehefin

Dogfennau ategol:

(16.30)

9.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

9.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.30 - 16.40)

10.

Covid-19 – ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn y sesiwn gyda chynrychiolwyr Race Council Cymru.

(16.40 - 16.50)

11.

Gohebiaeth y Pwyllgor - i'w thrafod a'i chytuno

Cofnodion:

11.1 Trafododd y Pwyllgor lythyr drafft at y Gweinidog Addysg ynghylch addysg ddewisol gartref a chytunwyd arno.