Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/06/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai’n gadael y cyfarfod am ryw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

1.4 Nododd y Cadeirydd ymddiheuriadau gan Hefin David AS a Siân Gwenllian AS. Croesawodd y Cadeirydd Joyce Watson AS a Helen Mary Jones AS a oedd yn dirprwyo ar eu rhan.

 

1.5 Croesawodd y Cadeirydd Russell George AS i’r cyfarfod yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, o ystyried diddordeb y Pwyllgor mewn sgiliau, ymchwil ac arloesi.

 

 

(15.40)

2.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth ar effaith Covid-19 ar addysg uwch
ac addysg bellach gyda chynrychiolwyr addysg uwch

Yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor - Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Cymru

Kieron Rees, Pennaeth Polisi a Materion Allanol - Prifysgolion Cymru

Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor - Prifysgol Aberystwyth

Yr Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor - Prifysgol Abertawe

Dr David Blaney, Prif Weithredwr - HEFCW

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Cymru, Prifysgolion Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. 

 

 

(14.30)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.40 - 15.00)

4.

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.

 

(15.00 - 15.40)

5.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth ar effaith COVID-19 ar addysg uwch ac addysg bellach gyda chynrychiolwyr addysg bellach

Dr Rachel Bowen, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus - Colegau Cymru

Dr Andrew Cornish, Pennaeth a Phrif Weithredwr - Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion

Philip Blaker, Prif Weithredwr - Cymwysterau Cymru

Denver Davies, Pennaeth Monitro a Chydymffurfiaeth - Cymwysterau Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Golegau Cymru, Coleg Sir Gar, Coleg Ceredigion a Chymwysterau Cymru.

 

 

(15.40)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 7

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.50 - 16.10)

7.

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.

 

 

(16.10 - 16.50)

8.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth ar effaith COVID-19 ar addysg uwch ac addysg bellach: lleisiau staff a myfyrwyr

Joe Atkinson, Ymgynghorydd y Wasg a Materion Cyhoeddus - UCM Cymru

Jim Dickinson, Golygydd Cysylltiol – WONKHE

Dr Myfanwy Davies, Llywodraethwr y Cyngor wedi'i phenodi gan Staff Academaidd - Prifysgol Bangor

Dan Beard, aelod gweithredol Addysg Uwch UNISON a chadeirydd UNISON Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan NUS Cymru, WONKHE, Prifysgol Bangor ac UNSAIN Cymru.

 

 

9.

Papurau i’w nodi

9.1

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - ymateb i lythyr y Pwyllgor ar 12 Mai yn gofyn am ragor o wybodaeth am effaith Covid-19 ar blant a phobl ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

9.2

Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Addysg ynghylch diwygio ADY

Dogfennau ategol:

9.3

Gwybodaeth ychwanegol gan Grŵp Penaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan yn dilyn y cyfarfod ar 18 Mai

Dogfennau ategol:

(16.50)

10.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

10.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.50 - 17.00)

11.

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

11.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.

 

(17.00 - 17.10)

12.

Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - trafod y dull gweithredu

Cofnodion:

12.1 Ystyriodd y Pwyllgor ei ddull o ystyried y Bil.

12.2 Cytunodd yr Aelodau ar yr amserlen mewn egwyddor, yn amodol ar fod slotiau cyfarfod ar gael.

12.3 Nododd y Pwyllgor ei fod yn disgwyl nifer fawr o ymatebion i’r ymgynghoriad o ystyried y diddordeb yn y Bil hwn. Nododd ymhellach y byddai’n diweddaru’r Pwyllgor Busnes a Llywodraeth Cymru pe bai’r nifer fawr o ymatebion, neu’r trefniadau presennol ar gyfer gweithredu brys, yn achosi unrhyw anawsterau o ran yr amserlen arfaethedig.