Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/05/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg. 1.2
Yn
unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi
penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y
cyhoedd. 1.3
Os
byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y
byddai ei chyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y
Pwyllgor wedi cytuno y byddai Dawn Bowden yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros
Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. |
|
(14.00 - 15.00) |
COVID-19: Sesiwn dystiolaeth ynghylch effaith Covid-19 ar blant sy'n agored i niwed gyda chynrychiolwyr y trydydd sector a staff rheng flaen Allison Hulme, Cyfarwyddwr Cenedlaethol - BASW Cymru Sarah Crawley, Cyfarwyddwr – Barnardos Cymru Vivienne Laing, Polisi a Materion Cyhoeddus Louise Israel, Uwch Oruchwyliwr ChildLine Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.2 Clywodd y Pwyllgor
dystiolaeth gan NSPCC Cymru, Barnardo’s a Childline. 2.3 Cytunodd NSPCC Cymru i
ddarparu rhagor o fanylion am y tueddiadau o ran galwadau i’r llinell gymorth. |
|
(15.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod heddiw yn ystod eitem 4 Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
|
(15.10 - 15.30) |
COVID-19: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 4.1 Trafododd yr
Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn flaenorol. |
|
(15.30 - 16.30) |
COVID-19: Sesiwn dystiolaeth ynghylch effaith Covid-19 ar blant agored i niwed gyda phenaethiaid gwasanaethau plant a'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Marian
Parry Hughes, Pennaeth grŵp Penaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan Sally
Jenkins, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd – Cyngor Dinas Casnewydd Craig
McLeod, Uwch Reolwr Plant a'r Gweithlu – Cyngor Sir y Fflint Jan Coles,
Pennaeth Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Powys Jane
Randell, Cadeirydd – Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan benaethiaid
gwasanaethau plant a’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol. 5.2 Cytunodd y penaethiaid gwasanaethau plant i ddarparu
rhagor o wybodaeth am y cyswllt rheolaidd rhwng awdurdodau lleol a phlant a
phobl ifanc yn eu hardaloedd. |
|
Papur i’w nodi Cofnodion: 6.1 Cafodd y
papur ei nodi. |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Lywodraeth Cymru - cais am ragor o fanylion yn dilyn y sesiynau tystiolaeth COVID-19 Dogfennau ategol: |
||
(16.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 7.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
|
(16.30 - 17.00) |
COVID-19: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 8.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn flaenorol. 8.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru
i ofyn am y canlynol: - i gael gweld y data a
gyflwynir gan y gwasanaethau plant i Lywodraeth Cymru yn wythnosol; a - rhagor o fanylion am y
camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod plant nad yw’r
gwasanaethau’n ymwybodol ohonynt ond sy’n agored i niwed, neu o bosibl yn
agored i niwed, yn cael gwybodaeth am y ffyrdd gorau o gael mynediad at
gymorth. |