Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/01/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod; ni
chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(09.30 - 10.20) |
Gwella ysgolion a chodi safonau - Sesiwn dystiolaeth gyda'r Consortia Addysg Rhanbarthol Debbie Harteveld,
Rheolwr Gyfarwyddwr – Gwasanaeth Cyflawni Addysg ar gyfer De Ddwyrain Cymru Will McLean,
Cyfarwyddwr Arweiniol - Gwasanaeth Cyflawni Addysg ar gyfer De Ddwyrain Cymru a
Phrif Swyddog, Plant a Phobl Ifanc - Cyngor Sir Fynwy Louise
Blatchford, Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro – Consortiwm Canolbarth y De Sue Walker,
Cyfarwyddwr Arweiniol - Consortiwm Canolbarth y De a Phrif Swyddog Addysg -
Cyngor Sir Merthyr Tudful Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gonsortia Addysg
Rhanbarthol: y Gwasanaeth Cyflawni Addysg ar gyfer De Ddwyrain Cymru a
Chonsortiwm Canolbarth y De. 2.2 Oherwydd diffyg amser, cytunwyd y byddai'r cwestiynau
heb eu gofyn yn cael eu hanfon at y Consortia er mwyn iddynt ymateb yn
ysgrifenedig. |
|
(10.30 - 11.20) |
Gwella ysgolion a chodi safonau - Sesiwn dystiolaeth gyda'r Consortia Addysg Rhanbarthol Andi Morgan, Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro - Ein Rhanbarth
ar Waith Kate Evan-Hughes, Cyfarwyddwr Arweiniol - Ein Rhanbarth
ar Waith a Chyfarwyddwr Plant ac Ysgolion - Cyngor Sir Penfro Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr - Gwasanaeth Gwella ac
Effeithiolrwydd Ysgolion Gogledd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Ian Roberts, Cyfarwyddwr
Arweiniol - GwE a Kate Evan-Hughes, Cyfarwyddwr Arweiniol - ERW 2.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Gonsortia Addysg Rhanbarthol GwE ac ERW. 3.3
Cytunodd ERW i ddarparu dadansoddiad fesul awdurdod lleol o'r £250,000 y mae’n
ei gael yn 2019-20 gan ei awdurdodau lleol. 3.4
Oherwydd diffyg amser, cytunwyd y byddai'r cwestiynau heb eu gofyn yn cael eu
hanfon at y Consortia er mwyn iddynt ymateb yn ysgrifenedig. |
|
(11.20) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 4.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Llythyr ar y cyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Addysg – camau nesaf yr adroddiad Cadernid Meddwl Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Adoption UK - effaith penderfyniadau cyllido diweddar ar wasanaethau cymorth i bobl ifanc mabwysiedig a'u teuluoedd yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sydd wedi’i wneud o ran cael gafael ar ddata dibynadwy am wasanaethau cymdeithasol fel y nodir yn Asesiad Effaith Rheoleiddiol y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Gosod y Memorandwm Esboniadol wedi'i ddiweddaru mewn perthynas â'r Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
(11.20) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.20 - 11.35) |
Gwella ysgolion a chodi safonau - Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn
ystod y sesiynau tystiolaeth. |
|
(11.35 - 11.55) |
Trafod y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad - goblygiadau posibl i bwyllgorau'r Cynulliad Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr, gan gytuno y byddai
ymateb drafft yn cael ei rannu ag Aelodau er mwyn iddynt gytuno arno. |