Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/11/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AC, ond nid oedd neb yn dirprwyo ar ei ran.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Diwygio’r cwricwlwm - sesiwn ar Ddyfodol Llwyddiannus i Bawb: Ymchwiliadau i ddiwygio’r cwricwlwm (Adroddiad Terfynol)

Dr Nigel Newton, Cydymaith Ymchwil, WISERD - Prifysgol Caerdydd

 

Mae’r adroddiad i’w gyhoeddi ddydd Gwener 8 Tachwedd a disgwylir iddo fod ar gael yma:  https://wiserd.ac.uk/cy/cyhoeddiadau/dyfodol-llwyddiannus-i-bawb-ymchwiliadau-i-ddiwygior-cwricwlwm

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafodd y Pwyllgor bapur briffio gan Dr Nigel Newton:

2.2 Cytunodd Dr Newton i ddarparu adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig, sef, Dibenion Cyffredin - Goblygiadau diwygio’r cwricwlwm yng Nghymru i addysg bellach, addysg uwch, sgiliau a busnes i’r Pwyllgor.

 

(10.30)

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papurau.

3.2 Mewn perthynas â’r ohebiaeth a ddaeth i law ar addysg ddewisol gartref, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i:

·         ailadrodd ei gred bod angen gweithredu i sicrhau bod plant sy’n cael eu haddysgu gartref yn cael eu gweld a bod sgwrs yn cael ei chynnal â nhw am yr addysg â gânt, ac i sicrhau eu bod yn hapus, yn iach ac yn ddiogel;

·         gofyn am eglurhad ar y pwyntiau cyfreithiol a godwyd yn yr ohebiaeth ynghylch ar ba sail y gellid llunio canllawiau arfaethedig;

·         gofyn am fanylion ar ba weithdrefn a / neu broses ymgynghori (os o gwbl) y Cynulliad y bydd y fersiynau terfynol o’r canlynol yn ddarostyngedig iddynt, a’r amserlenni cysylltiedig ar gyfer pob un:

-     addysg gartref: canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol a llawlyfr ar gyfer addysgwyr cartref;

-     rheoliadau a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol: i awdurdodau lleol gynnal a phoblogi cronfa ddata o blant o oedran ysgol gorfodol yn eu hardal, i’w helpu i adnabod plant nad ydynt yn hysbys iddynt; byrddau iechyd lleol i ddatgelu gwybodaeth anfeddygol i awdurdodau lleol i helpu’r awdurdod i adnabod plant yn eu hardal; ac ysgolion annibynnol i ddatgelu gwybodaeth i awdurdodau lleol am ddysgwyr yn yr ysgol annibynnol.

 

3.1

Llythyr gan Amddiffyn Addysg Gartref Cymru ynghylch y canllawiau statudol drafft i awdurdodau lleol ar addysg yn y cartref

Dogfennau ategol:

3.2

Llythyr e-bost gan Ymddiriedolwr a Chyswllt Cymru ar gyfer Education Otherwise ynghylch y canllawiau statudol drafft ar gyfer awdurdodau lleol ar addysg yn y cartref.

Dogfennau ategol:

3.3

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch addysg a gofal plentyndod cynnar

Dogfennau ategol:

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.40 - 11.40)

5.

Craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 - trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.

5.2 Cytunodd yr Aelodau y byddai adroddiad diwygiedig yn cael ei ddosbarthu drwy e-bost ar gyfer cytuno arno.