Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/11/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies AC; nid oedd dirprwy yno ar ei rhan.

 

 

(09.30 - 10.15)

2.

Sesiwn gydag Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru

Mae dydd Mercher 20 Tachwedd 2019 yn nodi 30 mlynedd ers i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) agor ar gyfer llofnodwyr. I nodi'r achlysur hwn, mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PPIA) wedi gwahodd Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru (SIC) i sesiwn gyhoeddus i drafod blaenoriaethau SIC a gwaith ei Haelodau ar ymchwiliad y Pwyllgor PPIA i hawliau plant.

 

 

Cynrychiolwyr Senedd Ieuenctid

Betsan Roberts, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Ogledd Caerdydd

Todd Murray, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Ben-y-bont ar Ogwr

Ffion Griffith, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Islwyn

Maisy Evans, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Dorfaen

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru, a nododd fod y sesiwn wedi'i threfnu i nodi 30 mlynedd ers i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn agor ar gyfer llofnodwyr. 

2.2. Croesawodd y Cadeirydd Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Gwahoddwyd ef i ymuno â'r sesiwn gan fod gwaith Senedd Ieuenctid Cymru yn berthnasol i bob pwyllgor.

2.3 Trafododd Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru eu blaenoriaethau gyda'r Pwyllgor, a'u gwaith ar ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Hawliau Plant.

 

 

(10.15)

3.

Papur i’w nodi

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papurau.

 

 

3.1

Llythyr at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth - Anghenion Dysgu Ychwanegol a thrafnidiaeth

Dogfennau ategol:

3.2

Llythyr gan y Gweinidog Addysg - y wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch a wnaed gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i dri o'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor ar statws Cymhwyster Bagloriaeth Cymru

Dogfennau ategol:

3.3

Llythyr at y Gweinidog Addysg ynghylch y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Gyllido Ysgolion

Dogfennau ategol:

3.4

Llythyr at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Asesiadau o’r Effaith ar Hawliau Plant

Dogfennau ategol:

3.5

Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Plant sy'n derbyn gofal

Dogfennau ategol:

3.6

Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru - gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y sesiwn graffu ar 6 Tachwedd ynghylch yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2018-19

Dogfennau ategol:

3.7

Llythyr ar y cyd gan yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant a Plant yng Nghymru – gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 16 Hydref ynghylch hawliau plant yng Nghymru

Dogfennau ategol:

3.8

Llythyr at Weinidogion Llywodraeth Cymru ynghylch y datganiad ar y cyd ar yr adolygiad arfaethedig o deithio gan ddysgwyr ôl-16

Dogfennau ategol:

(10.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

 

(10.30 - 11.30)

5.

Ymchwiliad i hawliau plant yng Nghymru - trafod y materion allweddol

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol, a chytuno y byddai'r adroddiad drafft yn cael ei drafod eto yn y cyfarfod ar 16 Ionawr 2020.