Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 08/11/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau, a diolchodd i Llyr Gruffydd am ei holl waith yn ystod
ei gyfnod ar y Pwyllgor. 1.2
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Hefin David a Michelle Brown. Nid oedd unrhyw un yn dirprwyo
ar eu rhan. |
|
(09.00 - 10.30) |
Craffu ar Gyllideb Llywodraeth Cymru 2019-20 Kirsty
Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Eluned
Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Huw Morris,
Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes Steve
Davies, Cyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Addysg Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Bu'r
Pwyllgor yn craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet a'r Gweinidog ar y gyllideb
ddrafft. 2.2
Cytunwyd i'r canlynol: ·
Hysbysu'r
Pwyllgor pan fydd adroddiad cynnydd ar gael ar effaith y gwariant a
ddefnyddiwyd i leihau maint dosbarthiadau babanod; ·
Dadansoddiad
o'r cydrannau o'r Grant Gwella Ysgolion Consortia Rhanbarthol yn 2019-20 gan
gynnwys y symiau cyfatebol yn 2018-19 a chadarnhad o p'un a yw'r elfennau
unigol yn parhau i fod wedi'u neilltuo at eu diben penodol; ·
Nodyn yn
manylu rhagolwg Llywodraeth Cymru o'r cyfanswm y disgwylir i gael ei
drosglwyddo i CCAUC ac addysg bellach o ganlyniad i weithredu adolygiad Diamond
yn llawn a rhagolwg o ran pryd y disgwylir i'r cyllid hwn gael ei ryddhau i'r
sectorau yn ôl blwyddyn ariannol; ·
Nodyn yn
darparu i'r Pwyllgor gyda phob dyraniad cyllid (h.y. 6ed dosbarth, FEC, Dysgu
Oedolion yn y Gymuned, a dyraniadau penodol eraill) o fewn y Cynllun Addysg
Ôl-16. |
|
(10.45 - 12.15) |
Craffu ar Gyllideb Llywodraeth Cymru 2019-20 Vaughan
Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Huw
Irranca-Davies AC, y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol Alan
Brace, Cyfarwyddwr Cyllid Albert Heaney,
Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio Jo-anne
Daniels, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Bu'r
Pwyllgor yn craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet a'r Gweinidog ar y gyllideb
ddrafft. 3.2
Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu dadansoddiad o ble yn union y
dyfarnwyd swm canlyniadol yr ardoll diodydd meddal gwerth £57 miliwn yng
Nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. |
|
(12.15) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 4.1 Cafodd
y papurau eu nodi. |
|
Gohebiaeth a anfonwyd gan gyngor ieuenctid Castell-nedd Port Talbot ynglŷn â phryderon ynghylch toriadau i grantiau addysg Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys - ymgynghori ar addewid drafft Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Cadeirydd at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - ymchwiliad i gyllido ysgolion Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - rhagor o wybodaeth yn dilyn y cyfarfod ar 20 Medi Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol - Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Diwygio'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau am ddim yn yr ysgol yng Nghymru yn sgil cyflwyno Credyd Cynhwysol Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch yr ymchwiliad i effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd Dogfennau ategol: |
||
Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ynghylch ymchwiliad y Pwyllgor i Dechrau'n Deg: Allgymorth Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – diweddariad 12 mis ar iechyd meddwl amenedigol Dogfennau ategol: |
||
(12.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.15 - 12.30) |
Craffu ar Gyllideb Llywodraeth Cymru 2019-20: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod sesiynau'r bore. |