Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/06/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau, nid oedd dim ymddiheuriadau. |
|
(09:30 - 10:15) |
Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 6 Estyn Claire Morgan, Cyfarwyddwr Strategol Mererid Wyn Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Jane Rees, Arolygydd EM Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Estyn. 2.2
Cytunodd i roi eglurhad ynghylch a oedd y 35,000 o blant yn y garfan yn cynnwys
plant a anwyd yn yr hydref a'r haf. |
|
(10:15 - 11:00) |
Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 7 Arolygiaeth
Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru Gemma Halliday, Rheolwr Datblygu'r Gweithlu – Cyngor Gofal Cymru Kevin Barker – Pennaeth Arolygu Gofal Plant a Chwarae Gill Huws-John - Uwch Reolwr – Arolygu Gofal Plant a
Chwarae Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan AGC a GCC. 3.2 Cytunodd AGC i rannu manylion canlyniadau'r gwerthusiad o
raglen beilot fframwaith cyd-arolygu Estyn-AGC. |
|
(11:15 - 12:00) |
Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 8 Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru Esther Thomas, Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Bwrdeistref
Sirol RCT – Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru Catrin Edwards, Pennaeth Trawsnewid Gwasanaeth - Cyngor Bwrdeistref Sirol RCT -
Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru Catherine Davies, Swyddog Polisi Dysgu Gydol Oes
(Plant) – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Sarah Mutch, Arweinydd
Addysg ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Phartneriaethau - Cyngor Bwrdeistref
Sirol Caerffili Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a
Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru. 4.2
Cytunodd aelodau'r panel i ddarparu nodyn am y canlynol: Faint o
awdurdodau lleol sy'n rhoi dewis i rieni rhwng lleoliadau nas cynhelir a
lleoliadau a gynhelir ar gyfer mynediad at yr hawl i gyfnod sylfaen y
blynyddoedd cynnar. Y
cyfraddau fesul awr y mae awdurdodau lleol yn talu i leoliadau a gynhelir a
lleoliadau nas cynhelir ar gyfer darparu'r hawl i gyfnod sylfaen y blynyddoedd
cynnar. |
|
(12:00) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 5.1 Cafodd
y papurau eu nodi. |
|
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - lefel yr ymgysylltiad rhwng Llywodraeth Cymru a'r Athro Ainscow Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol - gwybodaeth bellach yn dilyn y cyfarfod ar 16 Mai Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Cefnogaeth i Ddysgwyr o Leiafrifoedd Ethnig, Sipsiwn, Roma a Theithwyr Dogfennau ategol: |
||
(12:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Cofnodion: 6.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12:00 - 12:10) |
Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y bore. |
|
(12:10 - 12:45) |
Ymchwiliad i Gyllid wedi’i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol - trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 8.1 Yn
amodol ar fân newidiadau, derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. |