Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/05/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Michelle Brown. Nid oedd dirprwy yno ar ei rhan.

1.2        O dan Reol Sefydlog 17.24 datganodd Darren Millar AC fod ei ferch yn ymddangos yn y fideo a ddangoswyd ar ddechrau'r cyfarfod a'i fod yn llywodraethwr yn Ysgol Santes Ffraid.

 

(09:30 - 09:40)

2.

Darparu gwerslyfrau ac adnoddau dysgu ar gyfer disgyblion - cyfweliadau â phobl ifanc (fideo)

Cofnodion:

2.1 Gwyliodd y Pwyllgor fideo fer.

 

(09:45 - 11:00)

3.

Darparu gwerslyfrau ac adnoddau dysgu ar gyfer disgyblion - sesiwn dystiolaeth

Gareth Pierce, Prif Weithredwr - CBAC

Mike Ebbsworth, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cymorth Addysgol - CBAC

Philip Blaker, Prif Weithredwr - Cymwysterau Cymru

Emyr George, Cyfarwyddwr Cyswllt - Cymwysterau Cymru

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymwysterau Cymru a CBAC.

 

(11:00)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

4.1

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Cynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS),

Dogfennau ategol:

4.2

Gwybodaeth ychwanegol gan Estyn yn dilyn y cyfarfod ar 14 Mawrth 2018

Dogfennau ategol:

4.3

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - ynglŷn â chefnogi dysgwyr lleiafrifoedd ethnig, Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Dogfennau ategol:

4.4

Diweddariad chwarterol am y rhaglen drawsnewid anghenion dysgu ychwanegol (ADY) gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Dogfennau ategol:

4.5

Llythyr at y Llywydd am Adnoddau ar gyfer Craffu ar Brexit

Dogfennau ategol:

4.6

Llythyr gan Gymwysterau Cymru am ei Adolygiad o'r Dystysgrif Her Sgiliau

Dogfennau ategol:

4.7

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am y Cynnig Gofal Plant

Dogfennau ategol:

(11:00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11:15 - 12:30)

6.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor - Sesiwn gynllunio strategol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith ar gyfer y tymor hir. Cytunodd y byddai darnau penodol yn cael eu cwmpasu a'u trafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i Fagloriaeth Cymru, gan lansio ymgynghoriad cyn toriad yr haf.

 

6.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet am y wybodaeth ddiweddaraf am Ofal Newyddenedigol, yn enwedig mewn perthynas â'r trydydd rhifyn o'r safonau newyddenedigol.

 

6.4 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet am eglurhad o'r sefyllfa o ran cyllid ar gyfer y Grant Darparu Plant a Theuluoedd.

 

6.5 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet, yn gofyn am ragor o wybodaeth am yr amserlen ar gyfer y Cod Trefniadaeth Ysgolion sydd ar ddod.

 

6.6 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid i dynnu sylw at bryderon ynghylch y defnydd o ddata dros dro gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyllidebau drafft.

 

6.7 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn amlinellu rhai materion allweddol y mae am eu hystyried fel rhan o'r cylch cyllideb nesaf, gan gynnwys ei ddisgwyliadau y darperir Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant ar gyfer y Gyllideb Ddrafft 2019 - 2020.