Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/04/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie Morgan AC; roedd David Rees yn bresennol fel dirprwy.

 

(09:30 - 10:30)

2.

Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant - sesiwn ynghylch cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru

Huw Irranca-Davies AC, Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant.

Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi

Owain Lloyd, Dirprwy Gyfarwyddwr Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar y Gweinidog ynghylch cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru. 

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn am y rhesymeg dros y cynnig yn dechrau yn y tymor yn dilyn trydydd pen-blwydd y plentyn ac asesiad Llywodraeth Cymru o effaith bosibl y dull gweithredu hwn ar blant sy'n cael eu geni yn yr haf.

 

 

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

3.1

Llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – cyllid ar gyfer dysgwyr Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig

Dogfennau ategol:

3.2

Llythyr at y Cadeirydd gan y Cynghorydd Rob Jones (arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot) ynglŷn â'r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig

Dogfennau ategol:

3.3

Ymchwiliad i gyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol – gwybodaeth bellach gan y Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn dilyn y cyfarfod ar 8 Mawrth

Dogfennau ategol:

3.4

Ymchwiliad i gyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol – gwybodaeth bellach gan Ein Rhanbarth ar Waith yn dilyn y cyfarfod ar 8 Mawrth

Dogfennau ategol:

3.5

Gohebiaeth y Pwyllgor ynglŷn â Chynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS)

Dogfennau ategol:

3.6

Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes – Safon dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru

Dogfennau ategol:

3.7

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – dod â’r Grant Gwisg Ysgol i ben o 2018-19

Dogfennau ategol:

3.8

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – rhagor o wybodaeth yn dilyn y cyfarfod ar 22 Mawrth

Dogfennau ategol:

3.9

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – rhoi cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen ar waith

Dogfennau ategol:

3.10

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – argaeledd gwerslyfrau

Dogfennau ategol:

(10:30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10:45 - 11:00)

5.

Bil Cyllid Gofal Plant (Cymru) – trafod y dull gweithredu

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull gweithredu ar gyfer y Bil.

 

(11:00 - 12:00)

6.

Ymchwiliad i gyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol - trafod y materion allweddol

Papur preifat

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol. Caiff adroddiad drafft ei drafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

(12:00 - 12:15)

7.

Adnoddau ar gyfer craffu ar Brexit - trafod y llythyr gan y Llywydd

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor i ymateb i'r llythyr gan y Llywydd ac i wneud rhywfaint o waith ynghylch yr heriau a'r cyfleoedd sy'n codi ym maes addysg uwch ac addysg bellach yn sgil Brexit.