Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/03/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10:25)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 O dan Reol Sefydlog 17.22 etholwyd John Griffiths yn Gadeirydd dros dro.

1.2 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle; nid oedd dirprwy yno ar ei rhan.

 

(10:25 - 11:20)

2.

Ymchwiliad i Gyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol - sesiwn dystiolaeth 8

Estyn

 

Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd EM

Claire Morgan, Cyfarwyddwr Strategol

Simon Brown, Cyfarwyddwr Strategol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Estyn. Cytunwyd i ddarparu gwybodaeth am y canlynol:

·         Nodyn ar enghreifftiau o ysgolion sydd wedi gwneud cryn gynnydd o ran cau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim a disgyblion nad ydynt yn gymwys, ac eglurhad o'r hyn y byddech yn ei ystyried fel gwneud cynnydd sylweddol i gau'r bwlch.

·         Nodyn ar enghreifftiau o ddefnydd effeithiol o'r Grant Datblygu Disgyblion ar blant sy'n derbyn gofal neu blant mabwysiedig, a hefyd ar unrhyw ddefnydd aneffeithiol.

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu gyda'r cwestiynau na chawsant eu gofyn oherwydd cyfyngiadau amser.

 

 

 

(11:25 - 12:30)

3.

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn ar gyfer 2016 - 2017

Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd EM

Claire Morgan, Cyfarwyddwr Strategol

Simon Brown, Cyfarwyddwr Strategol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith Esytn o ran ei adroddiad blynyddol.

 

(12:30)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Nodwyd y papur.

 

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch Rhaglen Hwb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd am weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig

(12:30 - 12:35)

6.

Ymchwiliad i Gyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol - Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn.

 

(12:35 - 12:40)

7.

Adroddiad Blynyddol Estyn - Trafod y sesiwn graffu

Cofnodion:

7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn.

 

(12:40 - 12:45)

8.

Trafod gohebiaeth gyda CBAC – argaeledd gwerslyfrau

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth. Cytunodd yr Aelodau i gymryd tystiolaeth bellach.