Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/02/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

(09:30 - 11:40)

2.

Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol a Meddyliol Plant a Phobl Ifanc - Sesiwn dystiolaeth 21

Llywodraeth Cymru

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dave Williams, Cynghorydd y Prif Swyddog Meddygol ar Seiciatreg Plant a'r Glasoed

Albert Heaney, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio

Ruth Conway, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr

 

Bydd y Cadeirydd yn galw 10 munud o egwyl yn ystod y sesiwn dystiolaeth hon.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru.

 

2.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig ychwanegol am y materion a ganlyn:

  • unrhyw wybodaeth sydd ar gael am y cydberthynas rhwng lefelau amddifadedd a materion iechyd meddwl fel hunan-niwed ac anhwylderau bwyta; ac
  • enghreifftiau lle mae sefydliadau arbenigol wedi gweithio gydag ysgolion, gan gynnwys ysgolion arloesi, i lywio'r gwaith o ddarparu cymorth o ran llesiant mewn ysgolion a helpu i ddatblygu'r meysydd dysgu a phrofiad perthnasol yn y cwricwlwm newydd.

 

2.3 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am y materion a ganlyn:

  • mynediad at wasanaethau iechyd meddwl sylfaenol i bobl ifanc, gan ofyn yn benodol a yw'r holl Fyrddau Iechyd Lleol yn cydymffurfio â'r Mesur Iechyd Meddwl, a'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Uned Gyflenwi GIG Cymru yn y maes hwn ar hyn o bryd;
  • gwybodaeth am oedran y plentyn ieuengaf a dderbyniwyd i ysbyty oherwydd afiechyd meddwl ar ward oedolion mewn argyfwng/tu allan i oriau; a'r
  • wybodaeth ddiweddaraf am adnoddau yn uned cleifion mewnol Uned Glasoed Gogledd Cymru, Abergele. 

 

2.4 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu llythyr yn nodi'r cwestiynau nad oedd amser i'w gofyn yn ystod y sesiwn.

 

 

 

3.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

3.1

Gwybodaeth ychwanegol gan y Coleg Nyrsio Brenhinol yn dilyn y cyfarfod ar 18 Ionawr

Dogfennau ategol:

3.2

Llythyr at y Cadeirydd oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Dogfennau ategol:

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(xi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac ar gyfer eitem 1 yng nghyfarfod 28 Chwefror.

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11:40 - 12:10)

5.

Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y cyfarfod.

 

(12:10 - 12:30)

6.

Ymchwiliad i Dechrau'n Deg: allgymorth - Trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Derbyniwyd yr adroddiad, yn amodol ar fân newidiadau.

(12:30 - 13:00)

7.

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor y papur a chytunodd cynnal sesiwn fwy manwl ar ôl toriad y Pasg.