Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/02/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau, derbyniwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar a John Griffiths, nid oedd unrhyw eilyddion.

 

(09:00 - 10:00)

2.

Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - Sesiwn dystiolaeth 17

Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Dr Jane Fenton-May, Is-Gadeirydd - Polisi a Materion Allanol

Dr Rob Morgan, Swyddog Gweithredol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu.

 

(10:00 - 10:55)

3.

Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - Sesiwn dystiolaeth 18

Cynrychiolwyr Byrddau Iechyd Lleol

John Palmer, Prif Swyddog Gweithredu - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Melanie Wilkey, Pennaeth Comisiynu ar sail Canlyniadau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Rose Whittle, Pennaeth Gweithrediadau a Chyflenwi, Cyfarwyddiaeth Iechyd Plant Cymunedol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Angela Hopkins, Cyfarwyddwr Interim Nyrsio a Phrofiad y Claf - Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Nick Wood, Prif Swyddog Gweithredu - Bwrdd Iechyd  Prifysgol Aneurin Bevan

 

Papur 5 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg – I DDILYN

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fyrddau Iechyd Lleol.

 

Cytunasant i ddarparu nodyn yn esbonio pam fod y canran gwariant cenedlaethol ar CAMHS o gymharu â gwasanaethau iechyd meddwl oedolion a ddyfynnwyd yn y sesiwn yn gyfystyr â rhyw 12.7%, sy'n sylweddol uwch na'r canran gwariant unigol a ddyfynnwyd gan bob bwrdd iechyd mewn tystiolaeth ysgrifenedig a llafar (sy'n amrywio o 5.1% - 8.5%). 

 

 

 

(11:05 - 12:00)

4.

Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - Sesiwn dystiolaeth 19

Cynrychiolwyr Byrddau Iechyd Lleol

Warren Lloyd, Seiciatrydd Ymgynghorol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Liz Carroll, Pennaeth Nyrsio, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Peter Gore-Rees, Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Alberto Salmoiraghi, Seiciatrydd Ymgynghorol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Rhiannon Jones, Cyfarwyddwr Interim Gwasanaethau Cymunedol ac Iechyd Meddwl - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fyrddau Iechyd Lleol. 

 

Cytunodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i ddarparu nodyn ar y nifer o blant a phobl ifanc sy'n aros ar hyn o bryd am asesiad niwroddatblygiadol, a'r cyfnod aros y maent yn ei wynebu.

 

Er gwybodaeth, mae papur Conffederasiwn GIG Cymru hefyd yn ymwneud ag eitemau 3 a 4.

Dogfennau ategol:

(12:00 - 12:50)

5.

Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - Sesiwn dystiolaeth 20

Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC)

Carole Bell, Cyfarwyddwr Nyrsio

Carl Shortland, Uwch Gynllunydd

Robert Colgate, Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.

 

(12:50)

6.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

6.1 Nodwyd y papurau. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf ar athrawon cyflenwi.

 

6.1

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol - gwybodaeth bellach yn dilyn y cyfarfod ar 22 Tachwedd

Dogfennau ategol:

6.2

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Bagloriaeth Cymru

Dogfennau ategol:

6.3

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gan Undeb Addysg Genedlaethol Cymru, y Llais yr Undeb ac UCAC

Dogfennau ategol:

6.4

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Manylion y dyddiadau gwirio allweddol cyn rhyddhau'r cwricwlwm newydd ym mis Ebrill 2019

Dogfennau ategol:

6.5

Gwybodaeth ychwanegol gan gynrychiolwyr o dimau dyletswydd brys y GIG ac ymarferwyr gofal argyfwng yn dilyn y cyfarfod ar 10 Ionawr

Dogfennau ategol:

6.6

E-bost at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan aelodau Chwarae Teg i Athrawon Cyflenwi – gan gynnwys eu llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Dogfennau ategol:

6.7

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch gwerslyfrau cyfrwng Cymraeg ar gyfer cymwysterau.

Dogfennau ategol:

(12:50)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12:50 - 13:00)

8.

Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y cyfarfod.