Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/01/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin
David, nid oedd unrhyw un yn dirprwyo ar ei ran. |
|
(09:30 - 10:15) |
Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol a Meddyliol Plant a Phobl Ifanc - Sesiwn dystiolaeth 9 Samariaid Cymru Sarah Stone, Cyfarwyddwr Gweithredol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Samariaid. Cytunasant i anfon dau
adroddiad at y Pwyllgor: - Adolygiad a gyhoeddwyd yn The
Lancet yn 2015 - Rhaglenni atal hunanladdiad yn yr ysgol: y prawf SEYLE
ar hap o ran clwstwr, wedi'i reoli; ac - Adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd - Growing up
unequal: gender and socioeconomic differences in young people's health and
well-being. |
|
(10:30 - 11:30) |
Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol a Meddyliol Plant a Phobl Ifanc - Sesiwn dystiolaeth 10 Tîm Dyletswydd
Brys y GIG / Ymarferwyr Gofal Argyfwng Sharon Stirrup, Rheolwr Gweithredol CAMHS - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Darren Rennie,
Ymarferydd Tîm Triniaeth Ddwys Gydgysylltiedig (CITT) - Bwrdd Iechyd
Addysgu Powys Caren Weaver, Nyrs Argyfwng - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Dr Mark Griffiths, Cyfarwyddwr Clinigol, CAMHS - Bwrdd Iechyd Prifysgol
Aneurin Bevan Melanie Jones, Nyrs Gyswllt Argyfwng CAMHS - Bwrdd Iechyd
Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Mae ymatebion cyffredinol gan yr
holl Fyrddau Iechyd a Chonffederasiwn GIG Cymru wedi'u cyhoeddi ar dudalen
ymgynghoriad yr ymchwiliad Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o dimau dyletswydd
brys y GIG ac ymarferwyr gofal argyfwng. 3.2 Cytunodd y tystion i ddarparu nodyn ar gyfran y bobl ifanc sy'n dod
gerbron y timau argyfwng yn y Byrddau Iechyd gwahanol sy'n aros am asesiad
CAMHS neu sydd eisoes dan ofal CAMHS. |
|
Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol a Meddyliol Plant a Phobl Ifanc - Sesiwn dystiolaeth 11 Cynrychiolwyr yr Heddlu Prif Gwnstabl Cynorthwyol
Jonathan Drake, Awdurdod Heddlu De Cymru ac Arweinydd Rhanbarthol Cymru ar
gyfer Iechyd Meddwl, Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu Ditectif Prif Arolygydd
Alistair Mitchell, Heddlu De Cymru Uwcharolygydd Nicholas McLain,
Heddlu Gwent Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gyngor Penaethiaid Cenedlaethol yr
Heddlu. 4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Heddlu Gogledd Cymru i geisio ei
farn ar ddarparu cymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru a'i
effaith ar waith yr heddlu. |
||
(12:15) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 5.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Pecyn o fuddsoddiad yn y rhaglen drawsnewid anghenion dysgu ychwanegol Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Gweithredu'r rhaglen drawsnewid anghenion dysgu ychwanegol (ADY) Dogfennau ategol: |
||
(12:15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(IX) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12:15 - 12:30) |
Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod y cyfarfod. |