Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/12/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Hefin
David, Julie Morgan a Darren Millar. Ni chafwyd dirprwyon. |
|
(09:30 - 10:30) |
Ymchwiliad i iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc - sesiwn dystiolaeth 6 Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Yr Athro Alka Ahuja, Athro Ymweld, Prifysgol De Cymru, Seiciatrydd
Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc a Chadeirydd y Gyfadran Plant a Phobl Ifanc,
Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru Dr Warren Lloyd, Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc, Cyfarwyddwr
Meddygol Cysylltiol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu - Bwrdd Iechyd Prifysgol
Hywel Dda* *Pob un yn bresennol fel Aelodau Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion. |
|
(10:45 - 11:45) |
Ymchwiliad i iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc - sesiwn dystiolaeth 7 Dr Bethan Phillips, Cymdeithas Seicolegol Prydain Dr Liz Gregory, Grŵp Cynghori Arbenigol Cenedlaethol Seicolegwyr
Cymhwysol ym maes Iechyd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Seicolegol Prydain a'r
Grŵp Cynghori Arbenigol Cenedlaethol Seicolegwyr mewn Iechyd. 3.2 Cytunodd Dr Liz Gregory i ddarparu'r diagram a'r cyflwyniad y
cyfeiriodd atynt yn ystod y sesiwn. |
|
(11:45 - 12:45) |
Ymchwiliad i iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc - sesiwn dystiolaeth 8 Lowri Wyn Jones, Rheolwr Rhaglen – Amser i Newid Cymru Ian Johnson, Uwch Swyddog Ymchwil a Gwerthuso – Amser i Newid Cymru Sara Payne, Rheolwr Ymarfer Maethu - Barnardo's Sandra White, Rheolwr Gwasanaethau Canolog - Gweithredu dros Blant Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Amser i Newid Cymru, Barnardo's ac
Action for Children. 4.1 Cytunodd Gweithredu dros Blant i roi ei ymchwil i'r Pwyllgor sy'n nodi
bod yr amser aros ar gyfartaledd ar gyfer mynediad at driniaeth yn 26 wythnos. |
|
(12:45) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 5.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant - sesiwn ddilynol i'r sesiwn ar y gyllideb ddrafft ar 22 Tachwedd Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: |
||
(12:45 - 12:55) |
Ymchwiliad i iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn y sesiynau tystiolaeth. |