Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 546KB) Gweld fel HTML (240KB)

 

 

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

(09.30 - 11.00)

2.

Ymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol – sesiwn dystiolaeth 11

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Joanna Jordan - Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethu’r GIG & Gwasanaethau Corfforaethol

Karen Jewell - Swyddog Nyrsio Mamolaeth a Blynyddoedd Cynnar

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu nodyn ar y canlynol:

 

·         Amserlenni ynghylch pryd y bydd darlun data llawn y Bwrdd Iechyd ar gael, sy'n cynnwys nifer y menywod sydd wedi cael eu cyfeirio a'u gweld gan seicolegwyr a'r rhai a atgyfeiriwyd ond nad ydynt yn gallu cael mynediad at seicolegydd.

·         Y diweddaraf am argaeledd mynediad i driniaeth siarad wyneb yn wyneb.

·         Nodyn ar y dystiolaeth a roddwyd gan Gymdeithas Seicolegol Prydain bod y rhai sy’n cyflwyno gwasanaethau seicoleg amenedigol yng Nghymru yn gorfod ceisio goruchwyliaeth y tu allan i Gymru, o ganlyniad i ddiffyg seicolegydd amenedigol ymgynghorol yng Nghymru.  

·         Diweddariad yn dilyn cyfarfod y cyd Bwyllgor ar 25 Gorffennaf i drafod yr adolygiad o'r galw am wasanaethau haen 4.

·         Nodyn ar unrhyw ymchwil sydd ar gael ar effaith methu bwydo ar y fron, ac a yw hyn yn sbardun i iselder ôl-enedigol a pha gamau sy'n cael eu cymryd gan staff rheng flaen i gefnogi mamau sy'n bwydo ar y fron.

 

 

(11.00)

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

 

 

3.1

Nodyn ar Grŵp Llywio Iechyd Meddwl Amenedigol Cymru Gyfan

Dogfennau ategol:

3.2

Llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith - Teithio gan Ddysgwyr yng Nghymru

Dogfennau ategol:

(11:00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

 

(11.00 - 11.30)

5.

Ymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol – Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd mewn perthynas â'r ymchwiliad. Caiff adroddiad drafft ei drafod ar ddechrau tymor yr hydref.