Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod PDF (542KB) Gweld fel HTML (320KB)

 

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau, ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i'r Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a Phlant o Leiafrifoedd Ethnig - sesiwn dystiolaeth 6

Llywodraeth Cymru

 

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Steve Davies, Cyfarwyddwr, Yr Adran Addysg

Stephen Gear, Pennaeth Cefnogi Cyflawniad a Diogeli

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

 

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu nodyn ar y Fframwaith Perfformiad Addysg, yn enwedig os bwriedir iddo gymryd lle'r 'Fframwaith Canlyniadau'

 

(10.30 - 11.00)

3.

Gweithredu Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad Annibynnol o'r Cwricwlwm a'r Trefniadau Asesu yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 5

Llywodraeth Cymru 

 

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Steve Davies, Cyfarwyddwr, Yr Adran Addysg
Karen Cornish, Pennaeth Gweithredu’r Cwricilwm

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

 

(11.15 - 12.15)

4.

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 1

Llywodraeth Cymru 

 

Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Cymorth i Ddysgwyr

Tania Nicholson, Pennaeth Rhaglen Ddeddfwriaethol Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mair Roberts, Cyfreithwraig

Catherine Lloyd, Cyfreithwraig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

 

Cytunodd y Gweinidog i wneud yr hyn a ganlyn:

 

Llunio amserlen ar gyfer ailgyhoeddi canllawiau ar ddiwallu anghenion gofal iechyd plant a phobl ifanc yn yr ysgol;

 

Rhannu'r wybodaeth a gafwyd gan weithgorau am greu cynlluniau datblygu unigol. 

 

5.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

O dan Reol Sefydlog 17.24 datganodd Llyr Gruffydd AC ei fod yn Llywydd Anrhydeddus Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol.

Nodwyd y papurau.

 

5.1

Llythyr gan Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys / Cadeirydd y Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc (T4CYP) - gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod ar 24 Tachwedd

Dogfennau ategol:

5.2

Llythyr gan Dr Jonathan Brentnall - gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod ar 30 Tachwedd ar gyfer yr ymchwiliad i'r Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a Phlant o Leiafrifoedd Ethnig

Dogfennau ategol:

5.3

Gwybodaeth ychwanegol gan Trudy Aspinwall yn dilyn y cyfarfod ar 8 Rhagfyr ar gyfer yr ymchwiliad i'r Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a Phlant o Leiafrifoedd Ethnig

Dogfennau ategol:

5.4

Llythyr gan ProMo Cymru - Ymchwiliad i Ddarpariaeth Eiriolaeth Statudol

Dogfennau ategol:

5.5

Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes - Cyllid Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol yn y dyfodol

Dogfennau ategol:

(12.15)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.15 - 12.30)

7.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil – Trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad.